03/23 Clwb Llyfrau Lles Staff Newydd
Mewn cydweithrediad newydd rhwng ein hyrwyddwyr llesiant staff a thîm Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol, mae’r bleser gennym gyhoeddi heddiw ar Ddiwrnod y Llyfr lansiad y Clwb Llyfrau Llesiant Staff.
Bydd y grŵp ar-lein hwn yn cyfarfod bob chwe wythnos ar Teams a bydd yn gyfle gwych i gydweithwyr o bob safle a thîm gwrdd a sgwrsio wrth i ni rannu ein barn ar amrywiaeth o lyfrau sy’n canolbwyntio ar les.
Bydd y sesiynau'n anffurfiol ac yn hygyrch - treulir peth amser mewn ystafelloedd trafod ar wahân (gellir dewis rhai Cymraeg neu Saesneg) er mwyn i bawb gael cyfle i gyfrannu os dymunant, ond ni fydd unrhyw bwysau i wneud hynny.
Mae’r llyfr cyntaf wedi’i ddewis gan yr hyrwyddwyr llesiant a’n cydweithwyr yn y Llyfrgell: Ymwybyddiaeth Ofalgar - Canllaw Pen-Tennyn gan Ruby Wax, sydd wedi siarad yn y brifysgol ar sawl achlysur ac wedi derbyn gradd er anrhydedd gan y brifysgol haf diwethaf. Bydd y llyfrau dilynol yn cael eu dewis gan y grŵp yn ystod pob cyfarfod.
Mae sawl copi digidol ar gael yn Gymraeg a Saesneg drwy Wasanaeth Llyfrgell y brifysgol, ac mae copïau papur ar gael i’w benthyca o’r llyfrgelloedd ar y campws ym Mangor a Wrecsam. Mae gan rai siopau llyfrau lleol ar y stryd fawr y cyfieithiad Cymraeg ar werth mewn clawr meddal. Mae'r llyfr hefyd ar gael ar Audible, Kindle a thrwy eich llyfrgell gyhoeddus leol. Mae copïau ail law ar werth ar-lein, ond os ydych yn cael trafferth dod o hyd i gopi ac yr hoffech ymuno â’r drafodaeth, cysylltwch â’r Tîm Llesiant Staff staffhealthandwellbeing@bangor.ac.uk a chawn weld os gallwn helpu!
Dywed Rheolwr Casgliadau’r Llyfrgell, Tracey Middleton, fod tîm y Llyfrgell yn falch o gefnogi agenda llesiant y brifysgol gyda’r fenter newydd hon: “Mae hwn yn gyfle gwych i staff ddod at ei gilydd i rannu eu profiad o ddarllen ar y cyd. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa agwedd ar lesiant y bydd aelodau’r grŵp yn dewis ei harchwilio nesaf, a byddwn yn adeiladu casgliad ar wefan y Llyfrgell yn benodol ar gyfer Clwb Llyfrau Llesiant y Staff, gan roi dolenni i ddeunydd darllen pellach ac amrywiaeth o adnoddau. Byddwn yn hapus i ddarparu cefnogaeth i unrhyw gydweithiwr sydd eisiau defnyddio’r Llyfrgell i fenthyg hwn, neu unrhyw lyfrau i’r clwb yn y dyfodol – mae croeso i chi ddod i mewn i lyfrgell Bangor neu Wrecsam, neu anfon e-bost atom ar llyfrgell@bangor.ac.uk”
Cynhelir y cyfarfod cyntaf rhwng 1:00pm a 2:00pm ar ddydd Mercher 22 Mawrth – ac mae’n un o nifer o weithgareddau a gynhelir yn ystod ein Prynhawn Llesiant Staff.
Os na allwch orffen darllen y llyfr cyn 22 Mawrth, mae dal croeso i chi ddod i’r cyfarfod.
Mae hon yn sesiwn ar-lein y gallwch ymuno â hi o ffôn neu liniadur. Ar gyfer staff Wrecsam heb fynediad i Teams, mae croeso i chi ddod i Ystafell Seminar y Llyfrgell i ymuno ar sgrin fawr. Ar gyfer staff Bangor nad oes ganddynt efallai fynediad i Teams, mae croeso i chi ymuno â'r sesiwn yn Ystafell Stephen Colclough yn y Brif Lyfrgell.
Ymunwch â'r Grŵp Teams MS i gael mynediad at ddolenni’r cyfarfodydd, dyddiadau cyfarfodydd i ddod a chyfleoedd i gysylltu.
Anna Quinn, Rheolwr prosiect Iechyd a Lles