Hamza, cyn-fyfyriwr ac enillydd Strictly yn dychwelyd i Fangor
Siaradodd Hamza â BBC Radio Wales cyn yr ymweliad, dywedodd, "Fyddwn i ddim y person rydw i rŵan oni bai am Fangor. Dw i'n hynod o ddyslecsig ac fe lwyddodd Prifysgol Bangor i fy helpu'n aruthrol - doedd hyn ddim yn rhwystr i mi o gwbl. Mi wnes i syrthio mewn cariad â hanes naturiol ac mae Bangor wedi ei hamgylchynu gan y dirwedd fwyaf prydferth. Bangor oedd y brifysgol berffaith i ddysgu unrhyw beth am fioleg forol neu sŵoleg."

Cyn y ddarlith, ymunodd Hamza â Charfan Ddawns Prifysgol Bangor mewn perfformiad yn Pontio.
Meddai Julia Jones, Athro Cadwraeth, "Ers graddio dros ddegawd yn ôl, mae Hamza wedi dychwelyd i Fangor yn rheolaidd i roi darlithoedd. Mae’n trafod ei daith hynod ddiddorol o sut y bu'n meithrin ei arbenigedd a'i sgiliau, gan bwysleisio pwysigrwydd gwaith caled i wneud pethau i ddigwydd, ymhell cyn dod yn seren fawr - mae Hamza yn rhan o'n tîm ni!"
Dyn camera, ffotograffydd, cyflwynydd teledu a chadwraethwr bywyd gwyllt yw Hamza. Cafodd ei eni yn Sudan a’i fagu yn yr Alban. Mae wedi gwneud enw iddo’i hun yn y diwydiant gwneud ffilmiau, sy’n faes gystadleuol. Yr hyn a’i helpodd i wneud ei farc fel dyn camera bywyd gwyllt oedd ei ymroddiad a'i sgil wrth dynnu lluniau anhygoel o fywyd gwyllt yn yr Alban a Chymru. Ond sylweddolwyd yn gyflym iawn hefyd mor ddawnus ydyw o flaen y camera - ac i genhedlaeth o blant ifanc, ef yw Ranger Hamza ar CBEEBIES!
Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae Hamza wedi bod yn gweithio ar y gyfres BBC newydd Syr David Attenborough -Wild Isles. Ym mhennod neithiwr, ymddangosodd Hamza yn y darn 'On location' y rhaglen, lle'r oedd yn crwydro drwy Ucheldiroedd yr Alban yn chwilio am Eryrod Euraid.