Prifysgol Bangor yn Addo Mynd i'r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Mae Prifysgol Bangor wedi arwyddo Adduned Cyflogwr Amser i Newid Cymru.
Mae'r addewid yn ddatganiad cyhoeddus bod y Brifysgol wedi ymrwymo i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu o amgylch iechyd meddwl, ac mae cynllun
gweithredu yn amlinellu'r camau y bydd Prifysgol Bangor yn eu cymryd fel rhan o'r addewid.
Ariennir Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu ar y cyd gan Adferiad/Recovery a Mind Cymru ac, ac yn ddiweddar cyflwynodd y sefydliad sesiwn ymwybyddiaeth i hyrwyddwyr lles staff a hyfforddwyr lles newydd Prifysgol Bangor.
Dywedodd Rachelle Bright o Amser i Newid Cymru yn y lansiad swyddogol yr wythnos hon, "Mae Amser i Newid Cymru yn falch iawn o gefnogi Prifysgol Bangor i dorri'r
distawrwydd o amgylch iechyd meddwl ymhellach. Dychmygwch pe bai pob sefydliad yng Nghymru yn gwneud addewid cyhoeddus i fynd i'r afael â stigma: cyflogwyr mawr a bach, cynghorau, prifysgolion, clybiau pêl-droed, addoldai, elusennau… byddai’n anfon neges bwerus bod iechyd meddwl yn rhywbeth y gellir siarad amdano, ac nad oes croeso i stigma a gwahaniaethu!”
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am yrru agenda iechyd a lles Prifysgol Bangor, “Mae’r addewid hwn yn ymrwymiad cyhoeddus i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl ar bob lefel o Brifysgol Bangor.
“Er mwyn arwyddo’r Addewid, cyflwynwyd cynllun gweithredu yn manylu ar yr hyn y byddem fel sefydliad yn ei wneud. Ymysg y pwyntiau gweithredu mae gwneud iechyd
meddwl a lles yn rhan o’r broses sefydlu, annog staff i rannu straeon am sut y maent yn cefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain, trefnu digwyddiadau a hyfforddiant ar y pynciau hyn, a chyfeirio a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ar draws y brifysgol. Rwy’n gobeithio y byddwn ni i gyd yn parhau i fyfyrio ar sut rydyn ni’n cyfathrebu â’n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd dros y blynyddoedd i ddod.”