Plant Cymru’n cael lleisiau synthetig trwy Ddeallusrwydd Artiffisial
Mae Prifysgol Bangor a CereProc wedi ennill contract i gyflenwi 16 o leisiau synthetig pwrpasol i Wasanaeth Iechyd Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Bydd hynny’n fodd i chwalu’r rhwystrau i gyfathrebu y mae plant Cymru yn eu hwynebu wrth ddefnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnolegol trwy roi llais iddynt sy’n adlewyrchu pwy ydynt a’u cefndir diwylliannol.
Mae angen offer cyfathrebu ar oddeutu 330,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig i'w helpu nhw siarad, oherwydd amrywiaeth o afiechydon ac anawsterau dysgu. Caiff offer Cyfathrebu Atodol ac Amgen (AAC) ei ddefnyddio i ategu a gwella sgiliau cyfathrebu cyfyngedig, ond i blant bu'n anodd dod o hyd i acenion rhanbarthol sy'n briodol i'w hoedran.
Caiff y lleisiau pwrpasol eu creu gyda lleisiau gwrywaidd a benywaidd (plant a phobl ifanc yn eu harddegau) ac acenion y gogledd a’r de, a byddant ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd pob un o’r 16 llais yn barod i’w defnyddio cyn hydref 2023.
Mae CereProc yn cydweithio ag Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, sef uned ymchwil hunan-gyllidol sy’n arbenigo mewn Technolegau Iaith ar gyfer ieithoedd sydd â llai o adnoddau, a’r Gymraeg yn bennaf. Mae ganddi arbenigedd mewn Safoni Termau, Prosesu Iaith Naturiol (NLP) a Thechnolegau Llais (Testun i Leferydd [TTS], Adnabod Lleferydd [ASR]).
Bu CereProc, partner arweiniol y project, yn gweithio ar broject a ariannwyd gan Lywodraeth yr Alban 'Lleisiau Plant yr Alban' a bydd yn gyfrifol am greu'r lleisiau synthetig ac am roi cefnogaeth barhaus. Bydd yr Uned Technolegau Iaith yn gyfrifol am ddod o hyd i ddoniau Cymraeg a bydd yn darparu gwybodaeth Ieithyddol Gymraeg. Caiff y lleisiau eu creu trwy ddefnyddio uwch dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial / DNN CereWave CereProc.
Dywedodd Dr Jeffrey Morris, Pennaeth Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig GIG Cymru ac arweinydd cyflwyno lleisiau newydd Cymru: “Oherwydd y costau datblygu, yn anffodus, yn y gorffennol methodd y cwmnïau sy’n gweithredu yn y maes â blaenoriaethu tafodieithoedd a modelau iaith, ac felly rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i’r adwy ac ariannu’r gwaith pwysig hwn a fydd yn cael effaith aruthrol ar y plant sy'n dibynnu ar y dyfeisiau. Rhagwelwn y bydd y lleisiau newydd yn lleihau’r rhwystrau i blant sy’n defnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnolegol yng Nghymru, a chaniatáu iddynt siarad ag acen ac iaith sy’n debyg i’w teulu a’u cyfoedion.”
Dywedodd yr Athro Delyth Prys – Pennaeth yr Uned Technolegau Ieithoedd: “Mae Prifysgol Bangor yn hapus iawn i weithio gyda CereProc ar y project hwn. Mae’r cyfuniad o arbenigedd synthesis lleferydd masnachol CereProc a phrofiad a gwybodaeth Bangor o dechnoleg lleferydd i’r iaith Gymraeg yn ffrwythlon iawn a gobeithiwn barhau â’r bartneriaeth lwyddiannus honno yn y dyfodol”.
Dywedodd Paul Welham – Cadeirydd Gweithredol CereProc “Mae dyfarnu’r contract i greu 16 o leisiau Deallusrwydd Artiffisial synthetig pwrpasol ar y cyd â Bangor yn gamp a hanner i’r ddau sefydliad. Mae'n dangos yn glir mai strategaeth CereProc o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau, megis Bangor, NLB (Norwy) ac MTM (Sweden), yw'r un iawn. Mae’r strategaeth honno’n darparu lleisiau a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial i unrhyw sefydliadau’n gost effeithiol, ar gyfer bron pob dyfais.”
Ychwanegodd “Bu gweithio gyda’r tîm ym Mangor yn llwyddiant mawr ac yn bleser o’r mwyaf.”