Enillydd Cystadleuaeth Siarad Mandarin Chinese Bridge
Rydym wrth ein bodd bod un o’n myfyrwyr, Lilly Braden, wedi ennill y wobr GYNTAF yng nghategori dechreuwyr unigol Cystadleuaeth Siarad Mandarin Chinese Bridge 2023 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd y Deyrnas Unedig sy’n cael ei threfnu gan Centre for Language Education and Cooperation (CLEC) y Deyrnas Unedig a’i chefnogi gan y Cyngor Prydeinig.
Dywedodd Lilly Braden: 'Roeddwn wrth fy modd fy mod wedi ennill y gystadleuaeth yn y categori dechreuwyr. Hoffwn ddiolch i’m hathrawes Shan am fy helpu i gyrraedd mor bell â hyn! Mae hi bob amser yn fy nghymell i symud yn fy mlaen a gwella cywirdeb fy Mandarin. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i ddychwelyd i Lundain yn hwyrach yn y flwyddyn ar gyfer y seremoni wobrwyo.'
Mae Cystadleuaeth Hyfedredd mewn Tsieinëeg Chinese Bridge yn gystadleuaeth ryngwladol ar raddfa fawr ac yn ddigwyddiad uchel ei barch ym maes cyfnewid diwylliant ac addysg yn fyd-eang. Nod y gystadleuaeth yw ysgogi diddordeb myfyrwyr ar draws y byd mewn dysgu Tsieinëeg, ehangu eu dealltwriaeth o iaith a diwylliant Tsieina, ac adeiladu pontydd o gyfeillgarwch rhwng pobl ifanc Tsieina a gwledydd eraill.
Da iawn Lilly, a diolch yn fawr i'w hathro Shan Lu am ei hymroddiad a'i brwdfrydedd dros ddysgu Mandarin!