Sesiynau Adolygu Astudiaethau Crefyddol yn y Pasg yn denu 180+
Yn ystod mis Ebrill 2023, denodd yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas dros 180 mynychwr i 6 diwrnod o sesiynau adolygu Astudiaethau Crefyddol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch.
Yn ystod gwyliau’r Pasg 2023, cynhaliodd yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas chwe diwrnod o sesiynau adolygu wedi’u hanelu at fyfyrwyr Safon Uwch sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol ar hyn o bryd. Cydlynwyd y sesiynau gan wahanol arbenigwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd o’r Ysgol, a denwyd dros 180 o ddisgyblion Safon Uwch ac athrawon Addysg Grefyddol ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones, ‘Bwriad y sesiynau yma oedd cynorthwyo disgyblion wrth iddyn nhw adolygu ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Mi wnaeth y pedwar ohonom gynnal sgyrsiau am wahanol agweddau ar Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, gyda’r gobaith o grynhoi’r pynciau diddorol mae’r disgyblion wedi bod yn eu hastudio.’
Bydd criw Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn cynnal Ysgol Haf ddiwedd mis Gorffennaf er mwyn rhoi blas i ddarpar fyfyrwyr a’r cyhoedd o’r math o bynciau yr addysgir yn y brifysgol.