Ymchwilydd Bangor ar restr fer Gwobr Southwood 2022
Roedd Eleanor Warren-Thomas, Cymrawd Ymchwil NERC-IIASA ar restr fer Gwobr Southwood Cymdeithas Ecolegol Prydain 2022, am waith ôl-ddoethurol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Efrog, ac a gyhoeddwyd yn y Journal of Applied Ecology.
Roedd deuddeg o bapurau ar y rhestr fer, a rhoddwyd cyfle i bob ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa ysgrifennu blog neu greu podlediad am eu hastudiaethau.
Roedd papur Eleanor ‘No evidence for trade-offs between bird diversity, yield and water table depth on oil palm smallholdings: Implications for tropical peatland landscape restoration’ yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth, draeniad a thyfu cnydau ar fawndiroedd yn Indonesia.
Mae blog newydd a bostiwyd ar 'The Applied Ecoologist' yn disgrifio'r ymchwil, y tîm a'r project ehangach, a hanes gyrfa Eleanor ym maes ecoleg hyd yma.