Prynhawn Lles Staff – crynodeb o’r adborth
Hoffai’r tîm Iechyd a Lles ddiolch i bawb a gyflwynodd eu sylwadau yn dilyn y prynhawn lles i staff.
O'r 187 o ymatebion dienw a dderbyniwyd, roedd tua 38% wedi cymryd rhan yn y prynhawn lles ar 22 Mawrth, gyda 30% arall wedi cymryd yr amser ar ddiwrnod gwahanol ac ni wnaeth 32% gymryd rhan o gwbl.
Cynigiwyd amrywiaeth o weithgareddau fel rhan o’r prynhawn, ac er bod rhai wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, roedd y mwyafrif helaeth o’r rhai a gymerodd ran ac a atebodd yr arolwg (84%) wedi dewis eu gweithgaredd eu hunain.
Dyma sampl o sylwadau gan staff a gymerodd ran yn y digwyddiadau a drefnwyd:
“Roedd yn hyfryd ymgysylltu ag aelodau eraill o’r staff mewn digwyddiad strwythuredig. Wnes i fwynhau trafod y llyfr lles a chlywed syniadau gan aelodau staff eraill ar sut yr oeddent yn cefnogi eu lles eu hunain. Roedd cael digwyddiad strwythuredig wedi gwneud i mi ddefnyddio’r prynhawn lles fel y cynlluniwyd yn hytrach na’i ddefnyddio i geisio mynd trwy fy rhestr o bethau i’w gwneud yn y gwaith neu fy rhestr o bethau i’w gwneud gartref.”
“Roedd hi’n wych gallu gwneud rhywbeth penodol (y clwb llyfrau) ac yna gwneud rhywbeth o fy newis i.”
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond roedd y clwb llyfrau’n ddigwyddiad gwych a wnaeth i mi deimlo’n gysurus iawn. Byddaf yn bendant yn ei wneud eto ac rwyf wedi ei argymell i bobl eraill!”
“Roedd [y pêl-droed cerdded] yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol”.
“Rhestrwyd y gweithgaredd symud fel dosbarth arddull aerobeg, ond oherwydd niferoedd bach, newidiodd yr hyfforddwr y sesiwn i ganolbwyntio ar symud ysgafnach ac arafach. Wnes i fwynhau’n fawr iawn ac roedd yn weithgaredd gwych i’w wneud.”
“Cefais amser hyfryd a gofalgar [ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar yn Nhreborth]. Canolbwyntiais ar y presennol a defnyddio’r holl synhwyrau. Sylweddolais pa mor brydferth a phwysig yw natur a pha mor heddychlon [mae’n teimlo] pan fyddaf yn canolbwyntio ar y presennol.”
Dyma sampl o sylwadau gan rai a gynlluniodd eu gweithgareddau eu hunain:
“Wnes i ei ddefnyddio i gael rhywfaint o amser tawel ar fy mhen fy hun, i ffwrdd oddi wrth unrhyw ofynion a phethau sy’n tynnu sylw.”
“Treuliais y prynhawn yn dal i fyny gyda ffrindiau nad ydw i’n eu gweld yn aml, yn cael coffi a chacen.”
“Euthum allan i redeg, mynd am dro ac yna i ddosbarth Pilates.”
“Allan yng nghefn gwlad yn cerdded, ac yn tynnu lluniau.”
Treuliais amser gyda fy merch a'm hwyrion ac yna mynd â'r ci am dro hir.
“Rhoddodd amser i mi nôl fy mab o'r feithrinfa, rhywbeth dwi fel arfer yn gorfod dibynnu ar bobl eraill i'w wneud, a threulio'r prynhawn gydag ef. Aethom i nofio am y tro cyntaf, a gwnaeth y ddau ohonom fwynhau’n fawr iawn: D”
“Bûm yn gwylio ffilm yn y sinema.”
I’r rhai na chymerodd ran, roedd y rhesymau a roddwyd dros fethu â chymryd rhan yn ymwneud â’r canlynol:
- Amserlenni prysur y mis hwnnw;
- Llwyth gwaith/gofynion y swydd;
- Ddim eisiau cymryd rhan yn y cynllun oherwydd ddim yn cytuno ei fod yn ddefnyddiol;
- Diffyg anogaeth gan reolwyr/cydweithwyr.
Dywedodd Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles, “Mae’r adborth a gawn yn dilyn mentrau fel hyn yn werthfawr iawn o ran cynllunio unrhyw ddigwyddiadau i’r dyfodol ac arwain cynlluniau gweithredu.”
Ychwanegodd Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am iechyd a lles, “Fel rhan o’r arolwg hwn, gwnaethom hefyd ofyn am adborth staff ar sut i wella iechyd a lles yn y gwaith yn ehangach – mae’r sylwadau a’r awgrymiadau hyn yn hynod werthfawr a byddant yn cael eu hystyried gan ein Pwyllgor Strategol wrth i ni barhau i ddatblygu ein darpariaeth ym maes iechyd a lles dros y flwyddyn i ddod.”
Ymysg awgrymiadau cydweithwyr oedd mwy o sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a mynediad i ddosbarthiadau ymarfer corff i staff yn unig. O ganlyniad, bydd y brifysgol yn cyflwyno nifer o'r digwyddiadau hyn o ddechrau mis Awst.
Adnewyddu ac ailgysylltu: Cymerwch seibiant gofalgar o'ch wythnos brysur
Bob wythnos o ddydd Mercher, 2 Awst am 9:00am
Lleoliad: Ar MS Teams, Ymunwch trwy Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar Staff
Treuliwch ychydig o amser yn ymlacio a dadflino gyda sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar 30 munud a gyflwynir gan y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar.
- Myfyrdod dan arweiniad athro ymwybyddiaeth ofalgar hyfforddedig: Dod i adnabod eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich hun.
- Cefnogaeth ar gyfer eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar: Mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn rheolaidd yn helpu i leihau straen a gwella ymwybyddiaeth a lles meddyliol.
- Yn addas i bawb: O ddechreuwyr llwyr i'r rhai sydd â blynyddoedd o brofiad o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar
- Does dim angen archebu lle, ymunwch ar-lein am 9:00am bob dydd Mercher
Sesiynau symud ac ymestyn
O ddydd Mercher Medi 6ed, 12:15-12:45
Lleoliad: Canolfan Brailsford
Ymunwch ag un o hyfforddwyr cymwys a phrofiadol Canolfan Brailsford ar gyfer y sesiwn symud ysgafn wythnosol hon, sy’n cynnwys ymarferion symudedd, ioga a Pilates.
Mae'r sesiynau hyn ar gyfer staff yn unig ac maent yn rhad ac am ddim. Nid oes angen offer na phrofiad.
Cysylltwch â Canolfan Brailsford i archebu eich lle: brailsford@bangor.ac.uk
Sesiynau garddwriaeth therapiwtig yng Ngardd Fotaneg Treborth
10:00am – 1:00pm - dydd Gwener tan ddiwedd 2023
Lleoliad: Gardd Fotaneg Treborth
Mwynhewch fore yng Ngerddi Treborth, a gynhelir yn wythnosol o fis Gorffennaf tan ddiwedd 2023.
Bydd ymarferydd garddwriaethol therapiwtig yn cynnal y sesiynau hyn, mewn cydweithrediad â Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth gan gefnogi’r grŵp garddio cymunedol rheolaidd a chroesawu staff a myfyrwyr sy’n gwirfoddoli.
Cysylltwch â Lisa Toth fam ragor o wybodaeth ac i archebu lle (rhaid archebu lle) a gwiriwch gyda’ch rheolwr llinell yn ôl yr angen cyn mynd.
Datblygiadau iechyd a lles ychwanegol i’r dyfodol
Mewn ymateb i rai pryderon ac awgrymiadau a godwyd yn yr arolwg iechyd a lles, mae’r tîm iechyd a lles yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws ysgolion ac adrannau i ddarparu cyfleoedd at y dyfodol i gydweithwyr wella eu lles, yn y ffyrdd canlynol:
- Adnewyddu/gwella mannau i staff yn unig fel y gall cydweithwyr gymryd mwy o seibiannau gorffwys;
- Creu man tawel i orffwys ac adfyfyrio yng Ngardd Fotaneg Treborth;
- Parhau i fuddsoddi yn y Clwb Llyfrau Lles;
- Parhau i ddarparu’r lolfa menopos;
- Treialu ffyrdd arloesol i gydweithwyr symud mwy yn ystod y diwrnod gwaith.
Bydd diweddariadau manylach ar y cynlluniau hyn a mwy yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o'r wybodaeth uchod cysylltwch ag Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles.