Llunio cytundebau cadwraeth
Blogbost gan Yr Athro Julia P.G Jones
Mae'r Corff Anllywodraethol Comoraidd, Dahari, yn llunio rhaglen cytundebau cadwraeth i amddiffyn yr hyn sy’n weddill o goedwig Anjouan AC mae gwerthusiad effaith cadarn yn rhan ohoni o'r cychwyn cyntaf.
Mae canfyddiad cryf iawn yn lleol mai colli’r goedwig ar ben y mynydd sy’n achosi problemau dŵr yr ynys. Buom yn siarad â ffermwyr i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffermio sy'n digwydd ar ffin y goedwig i ystyried sut y gallai cynllun cytundebau cadwraeth weithio yma (gan gymryd ysbrydoliaeth o gynllun 'Rhannu Dŵr' Natura Bolivia).
Mae Dahari ar ddechrau cynllun 10 mlynedd ac maen nhw eisiau dysgu cymaint â phosib ohono. Felly rydym yn gweld sefydlu cynllun i fedru gwneud gwerthusiad cadarn o effaith y cytundebau cadwraeth newydd! Byr oedd y daith ond yn hynod ddwys a llwyddiannus. Braf oedd treulio'r amser hwnnw gydag Owen Lewis sy'n cynghori ynglŷn â dyluniad y goedwig ac agweddau ar fonitro bioamrywiaeth. Dyma ni gydag Amélaid Houmadi, Misbahou Mohamed a Djaffar El Farouk o Dahari.
Mae tîm Dahari yn fywiog ac yn ysbrydoledig (ac yn hwyliog!). Diolch am y croeso. Diolch hefyd i Fenter Darwin Defra am ariannu'r project 'arloesol' hwn, ac i Gyd-Gyfarwyddwyr Dahari, Misbahou Mohamed a Hugh Doulton, am eu syniadau arloesol ac am sicrhau bod gwaith Dahari’n seiliedig ar dystiolaeth.