Siarad â ffermwyr Anjouan
Blogbost gan Dr Edwin Pynegar
Buom yn brysur dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn siarad â ffermwyr yn ardaloedd amaethyddol uchaf Anjouan, i fyny ar y ffin â'r hyn sy’n weddill o’r goedwig frodorol. Rydym am ddeall sut a pham mae ffermwyr yn penderfynu tyfu cnydau (neu beidio) a chlirio coedwigoedd neu dorri coed (neu beidio). Unwaith y byddwn yn deall y prosesau sydd y tu ôl i’r penderfyniadau hynny’n well, gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno i ddechrau gwneud cynigion pwrpasol a chyfiawnhad drostynt i gymunedau lleol ynghylch sut y dylai'r cytundebau cadwraeth weithio. Y cam nesaf, yn y Flwyddyn Newydd, fydd cynnal grwpiau ffocws gydag aelodau o’r gymuned yn ogystal ag astudiaethau “sortio cardiau” i benderfynu pa gymhellion y mae ffermwyr yn teimlo y byddai’n deg eu derbyn yn gyfnewid am warchod coedwig.
Yma, mae tîm Dahari (o'r chwith i'r dde: Nastazia Mohamadi, Salim Ibrahim, Abdoulkader Fardane, Samirou Soulaïmana) gyda Maoulida Houmadi (ar y dde), ffermwr sy'n berchen ar ddarn o dir ar ymyl yr hyn sy’n weddill o’r goedwig.