Diolch i rhoddion gan alumni i Cronfa Bangor y Brifysgol, mae Undeb y Myfyrwyr wedi gallu prynu chwe dingi hwylio Firefly ail-law a dau drelar, a fydd yn galluogi i Glwb Hwylio Prifysgol Bangor hyfforddi mewn cychod cystadleuol yn barod am gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd dingis Firefly yn golygu y bydd y tîm yn cyfateb yn fwy cyfartal yn erbyn eu cyfoedion hwylio mewn prifysgolion eraill mewn digwyddiadau cystadleuol.
Mae'r cychod yn cael eu storio ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau ar y gweill i'r cychod a'r Clwb Hwylio gael eu lleoli yng Nghlwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn yn Biwmares.
Dywedodd Henry Williams, Llywydd, Undeb Bangor: “Mae’n annhebygol y bydd y cychod yn cael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn academaidd hon, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at eu lansio ym mis Medi gobeithio. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am ganiatáu i'n myfyrwyr a'r Clwb Hwylio ddatblygu a diogelu eu dyfodol wrth brynu'r cychod hyn."
Stevie Scanlan, rheolwr marchnata a recriwtio Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg, yw Comodor Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn. Meddai: "Rydyn ni'n falch iawn y bydd Clwb Hwylio Prifysgol Bangor wedi'i leoli gyda ni yma ym Miwmares, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr fel aelodau o'n clwb. Rydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl ar y dŵr cyn gynted ag y caniateir i ni."
Mae Cronfa Bangor, trwy roddion gan ein cyn-fyfyrwyr, yn rhoi grantiau sy'n cefnogi ein myfyrwyr presennol yn ogystal â phrojectau Cymraeg a’r diwylliant Cymreig ledled y Brifysgol.
Prif bwrpas y Gronfa yw galluogi'r brifysgol i gyflawni ‘ffin ragoriaeth.’
Dywedodd Emma Marshall, sy’n rheoli Cronfa Bangor yn y tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni, “Rydym yn diffinio hyn fel yr elfennau sydd, o'u cynnwys, yn rhoi lefel uwch o ansawdd i gefnogi dysgu ac agweddau pwysig eraill ar brofiad prifysgol.
“Mae arian o’r Gronfa yn gwella ansawdd profiad myfyrwyr yn y brifysgol ac yn cefnogi eu haddysg a'u datblygiad mewn ffyrdd pwysig.”