Bu grŵp o fyfyrwyr o’r Ysgol Gwyddorau Addysgol ar daith hynod ysbrydoledig i Ddulyn, dan nawdd Cronfa Bangor. y Brifysgol, sydd yncael ei gefnogi gan gyn-fyfyrwyr.
Cafodd myfyrwyr BA Plentyndod ac Ieuenctid sy’n dilyn modiwl XAC-3009 Amlieithrwydd mewn Plentyndod y cyfle i brofi’n uniongyrchol yr heriau sy’n wynebu cynaliadwyedd iaith leiafrifol a rôl allweddol y gyfundrefn addysg wrth gefnogi a chynnal defnydd iaith.
Ymwelodd y grŵp â Gaelscoil – ysgol gynradd cyfrwng y Wyddeleg sydd wedi’i lleoli y tu allan i’r Gaeltacht (y rhanbarth ble mae’r Wyddeleg yn iaith fwyafrifol) – i ddysgu mwy am heriau addysgu drwy’r model drochi mewn rhanbarthau di-Wyddeleg ac i gael profi drostynt eu hunain y strategaethau a ddefnyddir i drosglwyddo'r Wyddeleg i'r disgyblion. Buont hefyd yn treulio amser gwerthfawr mewn trafodaethau strwythuredig gyda’r garfan gyntaf erioed o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i gael eu haddysgu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Wyddeleg er mwyn dod yn athrawon ar gyfer y cyd-destun cyfrwng Gwyddeleg. Ategwyd y profiadau hyn gan ymweliad â’r Long Room yng Ngholeg y Drindod, i ddysgu am y Book of Kells a gwerthfawrogi hynafiaeth iaith, ac i ardal Temple Bar yn y Ddinas, i werthfawrogi diwylliant Gwyddelig.
Dywedodd yr Athro Enlli Thomas, sy’n addysgu’r modiwl: “Mae’r daith hon, o bell ffordd, wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy 20+ mlynedd o addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Roedd tanio angerdd y myfyrwyr a gweld eu brwdfrydedd yn byrlymu o amgylch y pwnc i’r fath raddau yn wirioneddol wych, a hynny, heb os, wedi’i gyfoethogi gan y profiadau bywyd go iawn a ddarparwyd ar y daith.”
Ychwanegodd Dr Clive Underwood, Cyfarwyddwr Cwrs BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid: “Heb y cyllid hael a ddarparwyd gan ein cyn-fyfyrwyr, ni fyddai llawer o’r myfyrwyr a elwodd o’r daith hon wedi gallu mynychu. Rydym yn ddiolchgar iawn I Gronfa Bangor am ddarparu’r cyfle hwn i’n myfyrwyr ac yn sicr y bydd y myfyrwyr hyn yn cofio’r daith hon am flynyddoedd lawer i ddod.”
Ariennir Cronfa Bangor gan roddion hael oddi wrth gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac mae’n cefnogi gweithgareddau sy’n cyfoethogi profiadau myfyrwyr tra’n astudio gyda ni yma ym Mangor.