Ecoamgueddfa Pen Llŷn yn Eisteddfod Boduan
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yw cartref yr Ecoamgueddfa o fewn Prifysgol Bangor, wrth i Dr Einir Young a Gwenan Griffith weithio’n agos gyda Dr Kate Waddington, Dr Leona Huey, Dr Gary Robinson, Dr Karen Pollock a’r Athro Peter Shapely. Derbyniodd y prosiect LIVE gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.
Wrth i gyfnod tair blynedd prosiect LIVE, sydd wedi ariannu gwaith Ecoamgueddfa Llŷn dros y tair blynedd ddiwethaf ddirwyn i ben, roedd yn wych gallu rhannu’r llwyddiannau a’r cynnyrch gyda phobl yr ardal a chyda phawb ddaeth i fwynhau bwrlwm stondin yr Ecoamgueddfa yn yr Esiteddfod Genedlaethol eleni. Nod yr Ecoamgueddfa yw sicrhau fod Pen Llŷn yn cael ei barchu fel cartref yn ogystal â chyrchfan, fel yr amlinellir a rei gwefannau: www.ecoamgueddfa.org a www.ecomuseumlive.eu.
Cafwyd amserlen hynod lawn gyda 21 digwyddiad i gyd, ond nid oes lle i sôn am bob un ohonynt.
Un o’r uchafbwyntiau oedd cael croesawu dwy o ysgolion y sir bob bore i arddangos y cefnlenni a grëwyd ar gyfer prosiect ‘Gair Mewn Gwlân’.
Rhannwyd llawer o gynnyrch yr ecoamgueddfa – y taflenni dysgu Cymraeg, Cymraeg yn yr Eisteddfod, chwe thaflen y Saffaris bywyd Gwyllt, a chafwyd sesiwn gan Rhys Mwyn a Dr Kate Waddington yn trafod y creiriau o Feillionnydd ger Rhiw a gafodd eu harddangos drwy’r wythnos, ac fe wnaethon nhw hefyd lansio taith rithiol Tre’r Ceiri (ecomuseumlive.eu) – adnodd sydd ar gael fel arddangosfa barhaol ym Mhorth y Swnt.
Lansiadau lu!
Lansiwyd tri llyfr a chyfres o flogiau gan Aled Hughes yn ystod wythnos yr Eisteddfod:
CipLŷn – llyfr sy’n benllanw prosiect LIVE
Cyfrol yw CipLŷn sy’n cyflawni dau nod, sef cyflwyno Ecoamgueddfa Llŷn i’r genedl a rhoi’r cyfle i 14 o ‘ferchaid’ Llŷn gael rhannu eu profiadau a’u teimladau am eu milltir sgwâr eu hunain drwy air a llun. Ceir ynddi gofnod o’u teimladau tuag at fro eu mebyd, at y gymuned ac am eu dyheadau a’u pryderon am y dyfodol gan roi cip i ni ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn frwdfrydig iawn yn lleol ac o’r tu hwnt i Gymru.
Dyma oedd gan Dr Jamie Davies o wasg AHRC i’w ddweud:
Gair mewn Gwlân
Mae ‘prosiect’ yn air rhy ddi-ddim i gyfleu gwir bwêr y gwaith a gafodd ei arwain gan y Prifardd Esyllt Maelor ac a gofnodwyd yn y llyfryn hwn, Gair mewn Glwân, drwy gyllid yr Ecoamgueddfa (LIVE).
Rhoddwyd y cyfle i 37 o ysgolion cynradd Gwynedd roi geiriau ac enwau ar gefnlenni o sgwariau a gafodd eu gwau gan bobl o bedwar ban byd ond, yn bennaf, o Wynedd.
Meddai Esyllt: “Mae yma enwau porthoedd a phyllau, ogofâu a chreigiau, ffermydd a ffynhonnau, caeau, afonydd, moelydd a phonciau chwarel. Disgyblion ysgolion y prosiect fu’n dewis yr enwau ac yna’n mynd ati gyda chymorth cyfeillion yr ysgol i’w brodio, eu gwnïo a’u gosod ar y cefnlenni. Mae oriau o lafur cariad yma. A tydw i ddim wedi sôn am y cerddi eto! Maen nhw yma rhwng y tudalennau yn aros i chi droi atyn nhw.”
Dwdls Cymraeg – llyfr yr Athro Oliver Turnbull
Llyfryn bach hyfryd yw Dwdls Cymraeg sy’n cofnodi taith yr Athro Oliver Turnbull wrth iddo ddysgu Cymraeg. Cafodd Dr Einir Young ei swyno gyda’r dwdls mewn digwyddiad ddydd Gŵyl Ddewi eleni a chynigiodd ariannu cyhoeddi’r llyfr am dri rheswm:
i) mae’n yn ffordd mor wych o ddangos nad oes un ffordd ‘gywir’ o ddysgu Cymraeg a bod rhyddid i bob siaradwr newydd ddod o hyd i ffyrdd unigryw i gofio geiriau a chystrawennau;
ii) bod hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif nodau’r Ecoamgueddfa;
iii) ac yn olaf, fod Nant Gwrtheyrn yn un o’r partneriaid, lle gall unrhyw un fynd i ddysgu Cymraeg.
Lansio flogs Llwybr yr Arfordir a Llwybr y Morwyr
Dros y misoedd diwethaf, bu Aled Hughes, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, yn cerdded 110 milltir/180km ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn o Drefor i Borthmadog, a Llwybr y Morwyr o Abersoch i Nefyn. Fe ddaeth Aled i rannu ei brofiadau ar stondin yr Ecoamgueddfa a dangos clipiau o rai o’i flogs (mae 15 i gyd, tua 9 munud o hyd, mewn Cymraeg gyda is-deitlau Saesneg, ac ynddynt, mae'n rhannu straeon difyr, ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal).
Cynhyrchwyd y flogs mewn partneriaeth rhwng Aled Hughes, Llwybr Arfordir Cymru a'r Ecoamgueddfa gyda chyllid LIVE.
Dyluniwyd a chrëwyd y stondin gan Gwenan Griffith sy’n eistedd wrth y bwrdd yn y cefndir ger y cefnlenni yn y llun uchod. Mae hi’n gyfrifol am y wefan a’r gweithgareddau digidol sydd wedi datblygu yn sgil yr Ecoamgueddfa. Gwenan yw’r ‘brêns tu ôl i’r brand’ a hi fydd rheolwr y wedd nesaf o’r gwaith (mwy am hynny yn y dyfodol agos!).
Ecoamgueddfa’n croesawu pawb
Cafodd yr Ecoamgueddfa gyfle i groesawu nifer o bobl adnabyddus i’r stondin a rhannu gweledigaeth yr Ecoamgueddfa gyda nhw, gan gynnwys yr Archdderwydd diwethaf, y Prifardd Myrddin ap Dafydd; y Archdderwydd newydd, Yr Athro a’r Prifardd a Phriflenor Mererid Hopwood; Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, a’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor; Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd; Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol; Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionydd; Mabon ap Gwynfor, Aelod Senedd Dwyfor-Meirionydd; Cefin Campbell a Jane Dodds, Aelodau Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru; a Derek Walker, Comisiynnydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a’i dîm.
Ond, yn bwysicach fyth, mabwysiadodd cannoedd o bobl Llŷn ac Eifionydd a thu hwnt stondin yr Ecoamgueddfa ar y maes fel cartref iddyn nhw wrth iddyn nhw fwynhau paned a sgwrs a chyfarfod ei gilydd ar y soffas cyffyrddus!
Yn ogystal â hyn bu Einir yn cymryd rhan mewn dau banel trafod, yn Sesiwn Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth a oedd yn trafod twristiaeth a hyfywedd yr iaith Gymraeg, a chyda Dr Sara Parry o’r Ysgol Fusnes, Prifysgol Bangor, i drafod Twristiaeth Gynaliadwy. Bu Gwenan Griffith hefyd yn siarad ar Radio Cymru am y gwaith fwy nag unwaith.
Ymchwil ac Addysgu Archeoleg ym Mangor
Mae’r prosiect yma wedi bod yn anhepgor i faes ymchwil ac addysgu Archeoleg ym Mhrifysgol Bangor hefyd, fel y dywed Dr Kate Waddington:
“Mae prosiect Ecoamgueddfa LIVE wedi creu cyfleoedd gwych i staff Archaeoleg a myfyrwyr yr Ysgol ymgysylltu â chymunedau ar Benrhyn Llŷn ac i arddangos peth o’r ymchwil archaeolegol newydd sy’n cael ei wneud yn y rhanbarth hwn. Cyfunwyd arddangosfeydd pop-up a sgyrsiau Meillionydd, a gynhaliwyd mewn nifer o safleoedd o fewn yr Ecoamgueddfa, â chyfres o weithdai trin gwrthrychau a modelu ffotograffig 3D o wrthrychau Oes yr Haearn. Arweiniodd y sesiynau hyn – a fynychwyd yn dda gan blant ysgol o wahanol oedrannau yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd â diddordeb mewn archaeoleg, crefftau a chelf – at lawer o sgyrsiau difyr am ddehongli rhai o’r gwrthrychau. Buont hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi ychwanegol ac adnoddau ar gyfer ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r modelau ffotograffig 3D bellach wedi’u cyhoeddi ar-lein mewn arddangosfa ddigidol, gan alluogi’r casgliad arteffactau ac ymchwil o’r wefan hon i fod yn fwy hygyrch: arcgis.com.
“Mae adnoddau rhith-realiti ychwanegol wedi'u creu sy'n gwella hygyrchedd rhai o'r henebion yn yr ardal hon ymhellach, gan gynnwys taith addysgiadol 360-gradd newydd o amgylch bryngaer Tre'r Ceiri, a lansiwyd gennym yn ddiweddar fel arddangosfa barhaol ym Mhorth y Ceiri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Swnt yn Aberdaron, ac sydd bellach ar gael ar-lein (LIVE (Llŷn Eco-museum) | Bangor University). Mae dwy daith rithwir 360-gradd ychwanegol bron wedi'u cwblhau a byddant yn cael eu cyhoeddi'n fuan. Edrychwn ymlaen at lawer mwy o gydweithio gyda staff yr Ecoamgueddfa!”
Gwybodaeth bellach
Am fwy o fanylion cysylltwch â ni: g.h.griffith@bangor.ac.uk ac e.m.young@bangor.ac.uk