Sefydliad Confucius yn diddanu a difyrru yng Ngŵyl Haf Bangor
Chwaraeodd Sefydliad Confucius ran fywiog yng Ngŵyl Haf Bangor ar Awst y 19eg, gan hwyluso cyfnewid hyfryd o draddodiadau a chryfhau cysylltiadau â'r fro.
Mae Gŵyl Haf Bangor yn ddathliad o ddiwylliannau amrywiol ac yn denu torfeydd mawrion. Roedd pobl o bob cefndir yn bresennol ac yn rhyfeddu at gampau artistig caligraffeg Tsieineaidd a'r grefft gymhleth o dorri papur. Roedd y celfyddydau Tsieineaidd traddodiadol hyn yn atseinio gyda llawer, gan gynnig ffenest i'r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y maent yn ei chynrychioli.
Un o uchafbwyntiau’r ŵyl oedd perfformiad Tai Chi gwefreiddiol dan arweiniad Xianke. Cafodd yr arddangosfa hudolus hon o ras a chryfder gymeradwyaeth wresog gan y gynulleidfa. Yn rhyfeddol, ymunodd nifer yn eiddgar yn y gweithgaredd, gan ddangos eu diddordeb brwd mewn dysgu a meistroli’r grefft ymladd hynafol hon.
Mynegodd y Sefydliad Confucius y bu’n falch o fod yn rhan o'r ŵyl. Dywedodd Dr Davitt, Cyfarwyddwr y Sefydliad Confucius, "Rhoddodd Gŵyl Haf Bangor lwyfan gwych i ni gysylltu â’r gymuned leol a rhannu gwead cyfoethog diwylliant Tsieina. Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl, o gefndiroedd amrywiol, yn cofleidio’r trysorau diwylliannol hyn."
Bu’r ŵyl yn gyswllt i feithrin cysylltiadau diwylliannol a gwerthfawrogiad dyfnach o gyfnewid trawsddiwylliannol. Mae Sefydliad Confucius wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â'r gymuned leol a datblygu ei genhadaeth o gefnogi dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ystod o fentrau.