Cydweithrediad Artistig Llewyrchus: Dosbarth Meistr Peintio â Brwsh Inc Tsieineaidd gyda’r Artist Li Mang o Lundain yng Nghanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio
Mae'n bleser gan Gymdeithas Tsieina Cymru a’r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor ddathlu llwyddiant y Dosbarth Meistr Cydweithredol mewn Peintio â Brwsh Inc Tsieineaidd. Rhoddodd y digwyddiad rhyfeddol hwn gyfle unigryw i artistiaid proffesiynol ymgolli ym myd hudolus Peintio â Brwshys Inc Tsieineaidd traddodiadol.
Daeth artistiaid o gefndiroedd amrywiol ac o wahanol ddisgyblaethau creadigol at ei gilydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio ar 6 Medi 2023 i gymryd rhan yn y Dosbarth Meistr a gafodd ei arwain gan Li Mang, artist adnabyddus o Lundain a chanddo enw da am ei feistrolaeth ar Baentio â Brwsh Inc Tsieineaidd. Cafodd y cyfranogwyr y fraint o ymchwilio i gymhlethdodau’r ffurf gelfyddydol hynafol hon, dan arweiniad tiwtora arbenigol Li Mang.
Cafodd y Dosbarth Meistr ei deilwra'n arbennig ar gyfer artistiaid proffesiynol sy'n ceisio ehangu eu gorwelion artistig trwy gyfrwng Peintio â Brwsh Inc Tsieineaidd.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan feithrin creadigrwydd a chydweithio ymhlith y mynychwyr a gafodd ysbrydoliaeth a safbwyntiau newydd ar eu teithiau artistig.
Dywedodd Dr Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius,' Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cydweithio â Chymdeithas Tsieina Cymru i gynnal y Dosbarth Meistr hwn, ac mae’r ymateb gan y gymuned artistig wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd cyfnewid syniadau creadigol ac archwilio technegau Peintio â Brws Inc Tsieineaidd traddodiadol yn gwneud y digwyddiad hwn yn brofiad rhyfeddol. Edrychwn ymlaen at ragor o gydweithrediadau tebyg yn y dyfodol.”