Mae'r Ganolfan DSP yn falch o gyhoeddi bod Dr Md Saifuddin Faruk yn ymuno â'r Ganolfan DSP fel Uwch Ddarlithydd yn ddiweddarach eleni.
Mae Dr Faruk yn academydd cydnabyddedig ym maes cyfathrebu ffibr optegol, ar ôl gweithio fel Uwch Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt, y DU. Gwasanaethodd hefyd fel Cymrawd Ymchwil Marie Curie yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Caergrawnt, a bu’n gweithio fel ymchwilydd gwadd yn Telekom Malaysia (TM) R&D, Malaysia, VPIphotonics GmbH, yr Almaen, ac Orange Polska, Gwlad Pwyl. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys algorithmau DSP ar gyfer traws-dderbynyddion cydlynol a rhwydweithiau mynediad optegol.
Edrychwn ymlaen at groesawu Dr Faruk i'r Ganolfan DSP.