Derbyniwyd y papur yn ACPPOEM2023

Papur arall, o'r enw 'Arddangosiad Arbrofol o ROADM Meddal yn seiliedig ar Elfennau Gollwng Deuol ar gyfer Rhwydweithiau Mynediad Cydgyfeiriol Optegol-Diwifr yn y Dyfodol', a ysgrifennwyd gan Omaro Gonem (myfyriwr PhD), Dr Roger Giddings (Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau) a'r Athro Jianming Tang (Cyfarwyddwr Gweithrediadau), wedi'i dderbyn i'w gyflwyno yng Nghynhadledd Cyfathrebu a Ffotoneg Asia / Cyfarfodydd Rhyngwladol Ffotoneg ac OptoElectroneg (ACPPOEM2023) eleni.

ACPPOEM yw un o'r cynadleddau mwyaf yn rhanbarth Asia-Môr Tawel ar gyfathrebu optegol, ffotoneg a thechnolegau perthnasol. Mae’n rhoi’r cyfle i ymchwilwyr rannu eu canlyniadau ymchwil diweddar, yn ogystal â’r cyfle i gwrdd ag academyddion, gwyddonwyr ac ymchwilwyr o wahanol rannau o’r byd. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal rhwng 4 a 7 Tachwedd 2023 yn Wuhan, Tsieina. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ACPconf.com.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?