Nifer eithriadol yn mynychu Diwrnod Cymunedol Prifysgol Bangor!
Dani wedi cael amser gwych yn ymestyn croeso cynnes i aelodau o’r gymuned leol i Brifysgol Bangor, a’u cyflwyno i ryfeddodau diwylliant Tsieineaidd ar ein Diwrnod Cymunedol cyntaf erioed – a dani’n sicr bo pawb ‘di mwynhau gymaint â ni hefyd!
Roedd hwyl a sbri plant ac oedolion yn amlwg i weld yn ein gweithdai Caligraffi Tsieineaidd, torri papur, a Clymau Tsieineaidd!
Dyma beth oedd gan bobl i'w ddweud: ‘Cawsom amser hyfryd! ‘Er ein bod yn byw ym Mangor, nid oeddem yn gwybod bod gan y Brifysgol gymaint o wahanol adrannau a mentrau arloesol. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwneud breichledau Tsieineaidd ac yn dysgu ysgrifennu rhifau ac enwau yn Tsieinëeg.’
Roedd ein ystod eang o weithgareddau diwylliannol a chrefft yn llawn hwyl ac yn cynnig cyflwyniad hyfryd a chyfoethog i ddiwylliant Tsieineaidd. O’n safle yng nghalon adeilad Pontio, rhwng y coleg ar y bryn a’r ddinas brysur, fe wnaethom helpu ’r digwyddiad hwn nid yn unig pontio rhwng y gymuned a’r brifysgol, ond rhwng diwylliannau byd-eang amrywiol.
Edrychwn ymlaen croesawu bawb yma eto flwyddyn nesaf!