Cronfa Bangor yn cefnogi Cronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor
Yn ddiweddar mae Ysgol Busnes Bangor wedi elwa o grant gan Gronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, i sefydlu Cronfa Fuddsoddi a reolir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae rhoddion i Gronfa Bangor gan ein cyn-fyfyrwyr hael yn galluogi’r Brifysgol i ariannu projectau megis hwn, sy’n helpu i roi hwb i brofiad ein myfyrwyr a rhoi cyfleoedd iddynt gynyddu eu cyflogadwyedd.
Mae cronfeydd a reolir gan fyfyrwyr yn rhoi theori academaidd sy’n cael ei addysgu yn y ddarlithfa ar waith yn y marchnadoedd ariannol go iawn, gan ganiatáu i fyfyrwyr fasnachu ag arian go iawn a rhoi profiad ymarferol iddynt o reoli buddsoddiadau. Mae ysgolion busnes yn defnyddio lloriau masnachu ar-lein i ddatblygu sgiliau eu myfyrwyr ac, er bod cefndir damcaniaethol cryf mewn marchnadoedd ariannol byd-eang yn hollbwysig, mae cael cyfle ymarferol i ddefnyddio’r sgiliau hynny’n aml yn rhoi mantais i fyfyrwyr o ran gwneud cais am swyddi. Bydd y Gronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor yn arf addysgol diriaethol ac ymarferol, wedi’i chynllunio i ategu’r hyn a ddysgir mewn darlithoedd.
Bydd y swm a ddyfarnwyd o £12,500 yn cael ei fuddsoddi gan fyfyrwyr yn ecwiti cwmnïau a restrir ar y farchnad stoc neu mewn cronfa indecs gyswllt (e.e. FTSE 100 ETF). Bydd unrhyw elw o'r Gronfa Fuddsoddi’n cael ei roi tuag at brojectau cynaliadwyedd yn y Brifysgol.
Bydd y gronfa’n cael ei goruchwylio gan fwrdd ymgynghorol, a fydd yn gosod y paramedrau risg, ond y myfyrwyr fydd yn gyfrifol am y penderfyniadau rheoli a buddsoddi o ddydd i ddydd. Bydd gofyn i fyfyrwyr adnabod tueddiadau macro-economaidd, cwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gwmnïau a chyflwyno syniadau a strategaethau cyn buddsoddi. Bydd y broses hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau beirniadol a dadansoddol y tu allan i'w cwrs a rhoi'r cyfrifoldeb iddynt dyfu'r Gronfa Fuddsoddi. Gall myfyrwyr gyflwyno syniadau buddsoddi sy’n ymestyn yn hwy na’u cwrs ym Mhrifysgol Bangor, a fydd yn rhoi cyfle i wahodd myfyrwyr yn ôl i drafod sut mae eu buddsoddiad wedi dod yn ei flaen ar ôl graddio, a thrwy hynny wella’r berthynas â’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr.
Bydd effaith y grant hwn i’w weld drwy gydol 2023/24 a’r blynyddoedd academaidd dilynol gan y myfyrwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gronfa, a hefyd gan y Brifysgol ehangach, wrth i elw o’r buddsoddiadau gael ei roi tuag at brojectau cynaliadwyedd.
Dywedodd Dr Ed Jones o Ysgol Busnes Bangor, “Ni fyddai’r gweithgareddau hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni Cronfa Bangor. Rydym yn ddiolchgar am y cyfle a roddir gan y wobr hon ac yn cydnabod yr effaith a gaiff ar fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, gan gynnwys gwella eu dealltwriaeth o’r deunydd a addysgir, eu hymgysylltiad, a’u cyflogadwyedd.”
Meddai Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: “Mae rhoddion i Gronfa Bangor gan ein cyn-fyfyrwyr hael yn galluogi’r Brifysgol i ariannu projectau megis hwn, sy’n helpu i roi hwb i brofiad ein myfyrwyr a rhoi cyfleoedd ychwanegol iddynt gynyddu eu cyflogadwyedd!”
Am ragor o wybodaeth am Gronfa Bangor, cysylltwch â Persida Chung, Swyddog Datblygu, drwy e-bostio p.v.chung@bangor.ac.uk