Project 'Trafod Testun' wedi’i noddi gan Gronfa Bangor
Dros y misoedd diwethaf, mae cyfres o baneli trafod wedi eu cynnal yn Pontio gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor. Derbyniodd y project 'Trafod Testun' £2,300 o Gronfa Bangor a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Roedd y trafodaethau, a oedd yn cynnwys trawstoriad o arbenigwyr, ysgolheigion ac ymarferwyr proffesiynol, yn canolbwyntio’n benodol ar wahanol agweddau o’r maes llafur Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, gan gynnwys y ddrama lwyfan Siwan gan Saunders Lewis, y ffilm arobryn Hedd Wyn, chwedl Branwen o ail gainc y Mabinogi, yr hengerdd, a chywyddau Dafydd ap Gwilym.
Roedd y digwyddiadau yn agored i fyfyrwyr, disgyblion ysgol a'r cyhoedd. Cawsant eu hyrwyddo ar wefan Pontio a'u hysbysebu'n eang. Archebwyd tua 50 o docynnau ar gyfer pob panel gyda chyfanswm o 8 ysgol leol yn mynychu’r digwyddiadau yn ogystal â myfyrwyr prifysgol ac aelodau’r cyhoedd. Oherwydd diddordeb gan sawl ysgol yn y canolbarth a’r de, cafodd y trafodaethau eu recordio a’u hanfon at athrawon ledled y wlad a’u llwytho hefyd i wefan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Y Porth. Mae cofnodi'r trafodaethau hefyd yn eu galluogi i fod yn adnodd addysgol y gellir ei ddefnyddio bob blwyddyn.
Dywedodd disgyblion ac athrawon eu bod yn teimlo iddynt elwa’n fawr o’r trafodaethau wrth adolygu ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch/UG. Dywedodd Llio Davies, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Llangefni: “Roedd y paneli trafod yn ddiddorol ac yn hynod ddefnyddiol wrth ddod â’r testunau’n fyw i’r disgyblion. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr iddyn nhw gwrdd â chyd-fyfyrwyr Cymraeg a chael blas ar yr hyn sydd gan Brifysgol Bangor i’w gynnig.”
Roedd ysgolion o'r tu hwnt i ogledd Cymru yn arbennig o ddiolchgar o allu manteisio ar yr adnodd trwy'r recordiadau. Dywedodd Catrin Rowlands, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Llanhari: “Roedd yn wych derbyn copïau digidol o’r paneli trafod a gynhaliwyd ym Mangor er mwyn i ni allu rhannu’r profiad gyda’r disgyblion. Roedd yn adnodd adolygu annibynnol defnyddiol a chyfeiriodd y mwyafrif ato, gan ddyfynnu a dehongli sylwadau aelodau’r panel yn eu harholiad llafar terfynol.”
Dywedodd Cydlynydd y Project, Dr Manon Wyn Williams o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau: “Mae nifer o gysylltiadau gwerthfawr wedi’u creu gydag athrawon ysgolion uwchradd ledled Cymru drwy’r project ‘Trafod Testun’ a fydd yn sail gadarn i weithgareddau tebyg yn y dyfodol. Hoffai Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ddiolch i Gronfa Bangor am y cyllid i gefnogi’r project.”
Dywedodd Emma Marshall, y Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: “Bu’r paneli hyn yn llwyddiant mawr wrth ymgysylltu ag ysgolion a hyrwyddo Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae Cronfa Bangor yn falch iawn o gefnogi’r math hwn o weithgaredd sydd o fudd i nifer o grwpiau.”
Mae Cronfa Bangor yn fodd i'r brifysgol ragori a rhoi elfennau “ychwanegol” i'r profiad a gaiff ei myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth a'r ffurflen gais cliciwch yma neu cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, ar p.v.chung@bangor.ac.uk
Trafod Testun
![Trafod Testun](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-01/341493869_800667478360683_3750062062846799988_n.jpeg?h=4521fff0&itok=Q05ysPFx)
![Trafod Testun](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-01/346091208_611033417601758_6622176653999486327_n.jpeg?h=331f9054&itok=bxf4eUsY)
![Trafod Testun](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-01/334553211_1364050014393786_6349670364228367592_n.jpeg?h=8abcec71&itok=WiEuExKZ)
![Trafod Testun](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-01/334570785_1849838755374652_3226931492679204460_n.jpeg?h=1e2a68a6&itok=9i5KwXxg)
![Trafod Testun](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-01/338832838_609056094407552_7655354048618020_n.jpeg?h=0514ad4f&itok=FvsHeRJm)