Fy ngwlad:
Schools listening carefully to the brief for the day.

Yr Ysgol yn cynnal Her Faraday yr IET am yr ail flwyddyn yn olynol

Yn dilyn ei lwyddiant y llynedd, ar 29 Tachwedd 2023 cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Her Faraday yr IET.

Cystadleuaeth flynyddol yw’r Her Faraday sy’n cynnwys diwrnodau o weithgareddau STEM sy’n gofyn i ddisgyblion 12-13 oed fynd i’r afael â her byd go iawn. Y partneriaid thema eleni yw’r Rees Jeffreys Road Fund a National Highways. Mae’r tîm buddugol o bob digwyddiad yn ennill taleb iddynt eu hunain yn ogystal ag ennill lle ar y tabl cynghrair cenedlaethol. Bydd y pum tîm gorau ar ddiwedd y tymor yn cael taith rad ac am ddim i’r rownd derfynol, yn ogystal â chyfle i ennill £1,000 i’w hysgol ei wario ar weithgareddau STEM.

Eleni, gwnaeth 6 tîm o 6 disgybl yr un o Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Friars, Ysgol Tryfan, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Llangefni gystadlu yn erbyn ei gilydd am yr anrhydedd o ennill Diwrnod Her Faraday. Yn y digwyddiad, cafodd y timau eu herio i greu prototeip ar gyfer gwell diogelwch ar y ffordd fawr, naill ai mewn cymunedau gwledig neu ar draffyrdd. Roedd gofyn iddynt gyflwyno eu prototeipiau, gan roi esboniad o'r dyluniad a'r nodweddion, cynnal trafodaeth am y broblem beirianegol anoddaf a gafwyd, asesu deinameg eu tîm, ac arddangos y prototeip ar waith. Ar ddiwedd y dydd coronwyd Ysgol Llangefni yn fuddugol gyda sgôr ardderchog. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a chafodd dderbyniad da gan y cyfranogwyr a'r gwesteion. Bydd yr ysgol yn sicr yn cofrestru i gynnal Diwrnod Her Faraday yr IET eto yn 2024.


Dywedodd Dr Daniel Roberts, uwch ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig yn yr ysgol, a swyddog estyn allan yr ysgol,

Roedd cynnal yr Her Faraday eto eleni yn fraint fawr oherwydd gallwn groesawu darpar beirianwyr a gwyddonwyr i’n hadran a’u hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn STEM. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i amlygu i’r myfyrwyr y posibiliadau addysgol a phroffesiynol sy’n bodoli ym meysydd Peirianneg a Chyfrifiadureg. Mae ein hysgol wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau tebyg i ysgogi cenhedlaeth Peirianwyr a Gwyddonwyr Cyfrifiadurol y dyfodol.