Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol. Enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith yw Dr Gareth Evans-Jones sydd yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd am ei gyfrol, ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838–1868) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022). Hon yw'r gyfrol gyntaf i archwilio'n fanwl sut y defnyddiodd y Cymry yn America'r Beibl i ymateb i gaethwasiaeth yn y 19eg ganrif, wrth i nifer gondemnio'r arfer o berchnogi pobl ac eraill, ar brydiau, gyfiawnhau'r fath arfer.
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r Wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn.
Cwblhaodd Gareth ei ddoethuriaeth dan arweiniad yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Emeritws Eryl Wynn Davies, a dyna oedd sail y gyfrol academaidd hon a ddisgrifiwyd gan yr Athro Emeritws D. Densil Morgan fel '[c]yfrol arloesol [sydd hefyd] yn gyfraniad amhrisiadwy at wyddor esboniadaeth feiblaidd Gymraeg. Rhwng popeth, mae hon yn astudiaeth ddisglair iawn'.
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Gareth, “Rydw i wedi cael sioc enfawr o dderbyn y wobr hynod yma. Roedd llunio’r thesis doethurol oedd yn sail i’r llyfr dan arweiniad dau ysgolhaig eithriadol, ac yna gydweithio â Gwasg Prifysgol Cymru ac Aled Llion Jones, yn werthfawr iawn, ac mae clywed fod y Gronfa wedi dyfarnu ‘Mae’r Beibl o’n tu’ yn deilwng o’r wobr yn deimlad tu hwnt i eiriau. Diolch o waelod calon i bawb oedd yn rhan o’r broses ddyfarnu. Mae hyn yn hwb enfawr ac rydw i’n eithriadol ddiolchgar.”