Beth Sydd Ymlaen yn Wythnos Llesiant y Staff: 11-15 Mawrth, 2024
Bu prynhawniau llesiant y staff yn 2022 a 2023 yn llwyddiant, ac mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) y Brifysgol yn falch o gyhoeddi beth sydd ar y gweill yn Wythnos Llesiant y Staff 2024.
Fel y blynyddoedd a fu, mae gwahoddiad i’r staff gymryd eu “hamser llesiant” ar ddyddiad o’u dewis trwy gydol mis Mawrth, neu ymuno ag un o’r sesiynau grŵp yn ystod yr Wythnos Lesiant.
Thema eleni: Byddwch yn Egnïol!
Rydym yn parhau i droi at y 5 Ffordd at Lesiant yn ein themâu blynyddol, a’r thema eleni yw “Byddwch yn Egnïol.”
Bob dydd o ddydd Llun 11 hyd at ddydd Gwener 15 Mawrth, bydd gweithgaredd ar gael i’r staff archebu lle ynddo am ddim, gan ddefnyddio eu hamser llesiant. Sesiynau o dan oruchwyliaeth fydd y rhain ac efallai y byddant yn ein hannog i roi cynnig ar ffurf newydd o ymarfer corff, ailafael mewn hen hobi hoff, neu fynd allan i’r awyr iach gyda chydweithwyr.
Bydd hyfforddwyr a hwyluswyr cymwys yn arwain pob un o'r digwyddiadau arfaethedig. Mae croeso i ddechreuwyr pur ymuno ag unrhyw un o’r sesiynau, a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael yr offer, y gefnogaeth a’r anogaeth sydd eu hangen i wneud yn fawr o’r profiad.
Digwyddiadau’r wythnos ...
Mewn ymateb i adborth staff, rydym wedi penderfynu cynnig rhaglen o ddigwyddiadau dros wythnos yn hytrach nag un prynhawn. Y gobaith yw y bydd hynny’n galluogi rheolwyr llinell i gefnogi cyfranogiad eu haelodau tîm, gan na fydd y digwyddiadau i gyd yn digwydd yr un pryd fel yn y gorffennol.
Mae’r Dirprwy Is-Ganghellor dros Iechyd a Llesiant, yr Athro Andrew Edwards, yn annog yr holl staff i gynllunio ymlaen llaw o ran sut yr hoffent ddefnyddio eu hamser llesiant:
“Rydym yn cydnabod bod yr staff yn gweithio’n galed iawn ac eisoes yn cydbwyso nifer o wahanol ymrwymiadau a gofynion gwaith mewn cyfnod prysur iawn. Rwy’n gobeithio y bydd cydweithwyr o bob gradd a rôl yn manteisio ar y cyfle i roi’r gorau i’r gwaith am ychydig oriau a mwynhau’r cyfle i ymuno ag un o’r sesiynau llesiant. Mae’r adborth a gawsom o ddigwyddiadau blaenorol yn awgrymu bod llawer o’r staff eisiau cymryd rhan, ond ei bod hi’n anodd dod o hyd i'r amser i wneud hynny. Felly, byddwn yn annog ac yn apelio ar bob rheolwr llinell i ddod o hyd i atebion a fydd yn galluogi pawb i fwynhau amser llesiant ar ryw adeg yn ystod mis Mawrth, boed mewn digwyddiad grŵp sydd wedi’i drefnu, neu ddefnyddio’r amser ar ddyddiad arall.”
Fel o’r blaen, mae lwfans bore neu brynhawn (neu amser cyfatebol o 3.5 awr) ar gael i’r holl staff (ar unrhyw gontract rhan amser neu lawn amser, gan gynnwys pob rôl, gradd a safle). Cewch ei ddefnyddio fel y mynnwch i weddu i’ch llesiant personol, trwy gydol mis Mawrth. Cytunwch ynghylch yr amser i ffwrdd o'r gwaith gyda'ch rheolwr llinell ymlaen llaw.
Rhaglen Ddigwyddiadau Wythnos Llesiant y Staff
Dydd Llun 11/03: Dawns Fertigol, Theatr Stiwdio Pontio 1:00-2.30pm
*NAWR YN LLAWN*
Ynglŷn â’r sesiwn:
Arweinir y sesiwn gan Dr Kate Lawrence. Awydd hedfan? Dyma’ch cyfle chi. Mae dawns fertigol yn defnyddio harneisiau a rhaffau, sy’n fodd i chi archwilio symudiadau a chithau'n hongian yn yr awyr. Byddwn yn rhoi arweiniad i chi ynglŷn â ddefnyddio offer yn ddiogel fel y gallwch godi oddi ar y ddaear. Gwisgwch haenau lluosog o amgylch eich gwasg a phen ucha’r coesau er cyfforddusrwydd tra byddwch yn yr harnais.
Dydd Mawrth 12/03: Taith Gerdded Arfordirol Bangor, 1:00-3.30pm
*NAWR YN LLAWN*
Ynglŷn â’r sesiwn:
Mynd am dro 8-9km o dan arweiniad y Bartneriaeth Awyr Agored. Bydd y daith yn dechrau yng Nghanolfan Nofio Bangor (llefydd parcio ar gael) ac yn tywys cerddwyr ar hyd llwybr yr arfordir, i gyfeiriad y dwyrain tuag at Warchodfa Natur Aberogwen
Sesiwn nawr yn llawn – e-bostiwch iechydallesstaff@bangor.ac.uk os hoffech gael eich rhoi ar restr wrth gefn.
Dydd Mercher 13/03: Pilates, Ystafell 14, Cambrian 1, Campws Wrecsam 1:00-2:00pm
*5 LLE AR OL*
Am y sesiwn yma:
Bydd y sesiwn yma wedi ei arwain gan Helen o Bodywork Pilates, yn cynnig blas ar pilates ac yn gadael i chi weithio ar y lefel sy’n gyfforddus i chi. Bydd matiau ac offer arall yn cael eu darparu. Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n gadael i chi symud yn hawdd, a dewch â botel o ddŵr.
Rhaid archebu lle gan fod llefydd yn gyfyngedig. Archebwch le yma:
Dydd Mercher 13/03: Ioga Eistedd, Bocs Gwyn Pontio 1:00-2:00pm
*10 LLE AR OL*
Ynglŷn â’r sesiwn:
Sesiwn gynhwysol yw hon o dan arweiniad Palvinder Kaur, athro Ioga Dru a Myfyrdod Dru profiadol. Bydd y sesiwn yn addas i bawb sydd â diddordeb profi awr ymlaciol o symud, ymestyn, a thechnegau anadlu syml a fydd yn peri i bawb deimlo'n dawel a chytbwys am weddill y dydd. Yn addas i bob oed a gallu. Gwisgwch ddillad cyfforddus. Bydd yr holl offer yn cael eu darparu.
Rhaid archebu lle gan fod llefydd yn gyfyngedig. Archebwch le yma
Dydd Iau 14/03: Sesiwn Flasu Dringo Dan Do yng Nghanolfan Brailsford, 12.30-2:00pm
*4 LLE AR OL*
Ynglŷn â’r sesiwn:
O dan arweiniad Stephanie Chaplin, dyma ddosbarth delfrydol i'r rhai sy'n newydd i ddringo dan do. Bydd y sesiwn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi roi cynnig ar ddringo dan do mewn grŵp diogel a chefnogol.
Rhaid archebu lle. Ffoniwch Canolfan Brailsford ar 01248 382571.
Dydd Gwener 15/03: Taith grŵp ar e-feiciau i Fethesda, 1:00-4:00pm
*NAWR YN LLAWN*
Ynglŷn â’r sesiwn:
O dan arweiniad Tomos a Lucy, gyda chefnogaeth y Bartneriaeth Awyr Agored a Breeze Cycling, bydd y daith hon yn bennaf yn defnyddio’r llwybrau beicio ac yn osgoi’r ffyrdd. Bydd y daith yn mynd ar gyflymder sy'n addas i bawb, ac nid ydym byth yn gadael neb ar ôl
Cyfarfod ym maes parcio Canolfan Nofio Bangor am 1:00pm. Bydd y cyfranogwyr yn cael helmedau ac e-feiciau pwrpasol. Mae croeso i chi ymuno â'r reid ar eich beic eich hun os yw'n well gennych.
Rhaid archebu lle. Archebwch le yma
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen ddigwyddiadau neu sut a phryd i ddefnyddio eich amser llesiant ar ddiwrnod gwahanol, cysylltwch â’r Tîm Iechyd a Llesiant iechyallesstaff@bangor.ac.uk