Partneriaeth Gyffrous: Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn Cydweithio â Phrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina (CUPL) ar gyfer Ysgol Aeaf Saesneg Gyfreithiol Ar-lein!
Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion am y drydedd Ysgol Aeaf Saesneg Gyfreithiol, a gynhaliwyd gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a CUPL!
Cynhaliwyd yr ysgol aeaf bwrpasol hon rhwng 15 ac 19 Ionawr 2024. Roedd yn ymdrech ar y cyd â CUPL, ac fe’i dyluniwyd a’i chyflwyno’n fedrus gan Michael Pattison o Brifysgol Bangor. Dywedodd Michael, sy’n ieithydd, cyfreithiwr, darlithydd, ac ymgynghorydd addysgol, y canlynol wrth adfyfyrio am y profiad:
'Dros bum diwrnod cefais y pleser o gyflwyno cwrs Saesneg Gyfreithiol ar-lein i 30 o fyfyrwyr o CUPL. Am grŵp trawiadol o ddarpar gyfreithwyr ifanc! Buan y daethant i gofleidio ein dulliau addysgu gweithredol a rhyngweithiol - llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt! Buom yn ymchwilio i bynciau amrywiol hollbwysig, gan archwilio pam fod Saesneg Gyfreithiol yn wahanol i Saesneg bob dydd, gyda’i chonfensiynau ysgrifennu unigryw a’i geirfa wedi eu gwreiddio yn Lladin a Hen Ffrangeg. Roeddem yn unfrydol yn gwerthfawrogi’r symudiad tuag at ddefnyddio Saesneg Clir mewn dogfennau cyfreithiol er mwyn gwella darllenadwyedd a dealltwriaeth. Roedd y cwrs yn ymdrin â deddfwriaeth seneddol, cyfraith gyffredin a chyfraith sifil, cyfraith trosedd a chyfraith contractau, Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a hierarchaeth y llysoedd, athrawiaeth 'cynsail' a chyfeirio, dadlau ac ysgrifennu cyfreithiol..’
Trwy gydol y cwrs, cafodd y myfyrwyr y cyfle i ymgysylltu â chyfraith achosion, gan ddadansoddi adroddiadau achos bywyd go iawn yn Saesneg a llywio’r system gymhleth o ddyfynnu achosion. Fe wnaethom archwilio rhesymu cyfreithiol, mireinio'r grefft o ysgrifennu briffiau achos, a mentro i wahanol endidau busnes.
'Mae trefnu Ysgolion Haf ac Ysgolion Gaeaf ar-lein i fyfyrwyr CUPL wedi datblygu i fod yn hoff draddodiad yn Sefydliad Confucius. Mae ein hymrwymiad yn parhau’n gadarn wrth i ni ymdrechu i ddarparu profiadau dysgu personol i fyfyrwyr CUPL, gan hwyluso’r broses o ehangu eu gwybodaeth a’u gwneud yn gyfarwydd â’r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Gan ragweld dyfodol disglair, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar am y cyfle i estyn croeso cynnes yn y cnawd i fyfyrwyr CUPL i Brifysgol Bangor yn ystod y flwyddyn i ddod, meddai Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor.