Cynnal Ysgol Aeaf Meddwl yn Feirniadol ar y cyd rhwng Sefydliad Confucius a Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina!
Fel parhad o’r cwrs llwyddiannus a gynhaliwyd yn ystod yr haf, ar y cyd, cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor â Phrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina ysgol aeaf ddifyr iawn ar-lein gyda’r bwriad o ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol. Cafodd ei chynnal rhwng 22 a 31 Ionawr 2024, a’i chynllunio i feithrin gallu myfyrwyr i brosesu a dadansoddi gwybodaeth yn feirniadol, gan feithrin set o sgiliau hanfodol sy'n berthnasol i wahanol agweddau ar fywyd y tu hwnt i weithgareddau academaidd.
Cafodd y rhaglen o wyth sesiwn ei datblygu a’i chyflwyno gan Anthony Brooks er mwyn darparu llwyfan deinamig i feddylwyr beirniadol ifanc Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn hanfodol i’w bywydau bob dydd yn ogystal â’u hymdrechion academaidd. Wrth fwrw golwg yn ôl dros y rhaglen, dywedodd Anthony Brooks:
'Yn ogystal â bod â fframwaith strwythuredig, mae’r sesiynau meddwl yn feirniadol hefyd yn esblygu’n organig ac mae’r nodwedd honno yn golygu eu bod yn unigryw. Tra bo deunyddiau ar PowerPoint i’w cael fel cymhelliant, cyfranogiad llafar y myfyrwyr sy'n rhoi bywyd go iawn i'r sesiynau, ac yn eu cyfoethogi â geirfa amrywiol, mewnwelediadau, a safbwyntiau unigryw. Ym mhob sesiwn gwelir cyfnewid syniadau deinamig yn digwydd, gyda rhai cysyniadau’n cael eu dyfynnu a’u hystyried, ac yn cael eu hymhelaethu arnynt gan y cyd-gyfranogwyr. Mae'r broses gydweithredol hon yn help i fagu hyder yn raddol a pharodrwydd i ymgysylltu'n fwy huawdl.
Drwy gydol y rhaglen, mae trawsnewidiad amlwg yn datblygu wrth i fyfyrwyr gofleidio bod yn agored, ymgyfarwyddo â rhagfarnau, a datblygu gwytnwch yn erbyn twyll deallusol. Mae pob cyfranogwr yn llwyddo i feddwl mewn modd llawer iawn mwy trwyadl. Caiff sgiliau dadansoddol a gwerthusol eu hogi, a daw hynny i’w anterth yn ystod y sesiwn sy’n edrych ar ddefnydd cywrain ac amwys Shakespeare o iaith. Does dim curo brwdfrydedd ac ymgysylltiad myfyrwyr Prifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina sy’n golygu y cafwyd awyrgylch deallusol a bywiog wrth ddathlu holl feddylfryd meddwl yn feirniadol.'
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd un myfyriwr, 'Y rhan orau o’r Ysgol Aeaf Meddwl yn Feirniadol oedd y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon y tu allan i’r flwyddyn ysgol arferol. Roedd yr Ysgol Aeaf yn gyfle i edrych ar bynciau a diddordebau newydd, cymryd dosbarthiadau dan adain athro sy’n arbenigwr yn ei faes, a dysgu mewn amgylchedd hyblyg a hwyliog.'
Mae’r farn honno yn dal hanfod ein rhaglen, ac yn dangos yr effaith drawsnewidiol a gafodd ar daith academaidd y myfyrwyr.