Marcel Stoetzler a'r Feirniadaeth ar Wrth-Semitiaeth
Yn ddiweddar, mae Dr Marcel Stoetzler wedi cyhoeddi cyfrol a olygwyd ganddo o drafodaethau amrywiol am ddamcaniaeth feirniadol a beirniadaeth wrth-Semitiaeth.
Mae Critical Theory and the Critique of Antisemitism yn darparu ail-archwiliad systematig o ddamcaniaeth gwrth-Semitiaeth Ysgol Frankfurt a, thrwy ddefnyddio'r traddodiad pwysig hwn o ddamcaniaeth gymdeithasol gyfoes, yn ymchwilio i bresenoldeb gwrth-Semitiaeth yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas yr 20fed a'r 21ain ganrif.
Mae Critical Theory and the Critique of Antisemitism yn datgelu sut mae damcaniaeth feirniadol yn gwrthod gwrth-Semitiaeth wrth feirniadu agweddau eraill ar gymdeithas gyfoes, lle mae damcaniaethau traddodiadol wedi bod yn eu gadael heb eu herio neu wedi eu beirniadu yn unig wrth fynd heibio. Mae'r rhain yn cynnwys materion hunaniaeth, cenedl, hil a rhywioldeb. Wrth archwilio ysgrifeniadau Ysgol Frankfurt ar wrth-Semitiaeth felly, mae penodau'r llyfr hwn yn datgelu cysylltiadau â materion cymdeithasol dybryd eraill, megis hiliaeth yn ehangach, patriarchaeth, ystadegaeth, a deinameg gymdeithasol y dull cynhyrchu cyfalafol sy'n datblygu'n barhaus.
Mae’r gyfrol yn dwyn ynghyd ysgolheigion a gweithredwyr rhyngddisgyblaethol sy’n defnyddio damcaniaeth feirniadol i graffu ar amlygiadau adain dde a chwith o wrth-Semitiaeth gyfoes. Maen nhw'n gofyn: pam bod cymdeithas gyfalafol fodern i'w gweld yn rhwym o gynhyrchu gwrth-semitiaeth? A sut ydyn ni'n ei herio?
Dywed Dr Stoetzler: ‘Ar adeg pan fo twf poblyddiaeth yn rhyngwladol wedi dod â mathau newydd o wrth-Semitiaeth yn ei sgil, mae hwn yn adnodd hanfodol sy’n dangos perthnasedd parhaus damcaniaeth feirniadol Ysgol Frankfurt i’r frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth heddiw.’