Datgloi eich dyfodol: 15 o Ysgoloriaethau Mawreddog Llawn i Raglenni MSc Amaethgoedwigaeth a Choedwigaeth Drofannol
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi 15 ysgoloriaeth unigryw, a ddarperir gan Gomisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad (CSC), i ysgolheigion rhyngwladol rhagorol i ddilyn eu hastudiaethau naill ai mewn MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu’r Cyflenwad Bwyd neu mewn MSc Coedwigaeth Drofannol a hynny trwy ddull dysgu o bell, gan ddechrau ym mis Medi 2024.
Llwyddodd yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i sicrhau’r ysgoloriaethau yn dilyn proses ddethol drylwyr ac maent yn tystio i ymrwymiad Prifysgol Bangor i ragoriaeth academaidd a chydweithio byd-eang.
Mae'r ysgoloriaethau'n agored i ysgolheigion eithriadol o wledydd datblygol y Gymanwlad, a byddant yn rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd a chael effaith wirioneddol yn eu cymunedau. Ymhlith y gwledydd sy'n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaethau mae Bangladesh, Belize, Cameroon, Eswatini, Gabon, Ghana, India, Kenya, Kiribati, Lesotho, Malawi, Mozambique, Nigeria, Pacistan, Papua Guinea Newydd, Rwanda, Samoa, Sierra Leone, Ynysoedd Solomon, Sri Lanka, Tanzania, Y Gambia, Togo, Tuvalu, Uganda, Vanuatu, Zambia, gyda gwledydd cymwys ychwanegol eleni gan gynnwys Dominica, Fiji, Grenada, Guyana, Jamaica, Malaysia, Maldives, Mauritius, Montserrat, Namibia, Nauru, St Helena, St Lucia, St Vincent a'r Grenadines, De Affrica, a Tonga.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16:00 ar ddydd Iau, 28 Mawrth 2024.
Mae'r ysgoloriaethau mawreddog hyn yn talu'r holl ffioedd dysgu ac yn darparu bwrsariaeth hael i gefnogi ysgolheigion i fynychu taith astudio orfodol am gyfnod o bythefnos mewn gwlad drofannol. Yn ogystal, mae grant astudio ar gael i gynorthwyo ysgolheigion gyda threuliau dysgu o bell, gan sicrhau hygyrchedd a fforddiadwyedd i'r holl dderbynwyr.
Soniodd Dr Eefke Mollee, Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu’r Cyflenwad Bwyd am ei brwdfrydedd dros y rhaglen: “Rydym wrth ein boddau i fod yn bartner unwaith eto i Gomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad a gallu cynnig yr ysgoloriaethau hyn i ysgolheigion eithriadol ar draws y Gymanwlad. Mae ein rhaglenni dysgu o bell yn rhoi cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol ym meysydd coedwigaeth, amaethgoedwigaeth a rheoli adnoddau naturiol gael gwella eu sgiliau a chael effaith ystyrlon ar eu priod feysydd."
Bu un o raddedigion diweddar y rhaglen, sef Tankiso Lechesa o Lesotho, yn sôn am y profiad gwerth chweil a gafodd: “Cefais lawer o foddhad o fod yn fyfyriwr dysgu o bell ym Mhrifysgol Bangor oherwydd y dulliau dysgu a ddefnyddiwyd , megis darlithoedd a seminarau ar-lein, trafodaethau grŵp a theithiau astudio preswyl.”
Mae'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol wedi bod yn cynnig cyrsiau dysgu o bell sy'n gysylltiedig â choedwigaeth yn rhan-amser ers 2002, gan groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr i dderbyn ysgoloriaethau gan Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad yn 2011. Mae graddedigion y rhaglenni hyn wedi mynd yn eu blaenau i fod yn llysgenhadon gwych i Brifysgol Bangor a Chomisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad, gan ddangos pŵer trawsnewidiol addysg ôl-radd ryngwladol.
Peidiwch â cholli'r cyfle anhygoel hwn i ymuno â chymuned fywiog o ysgolheigion a chael effaith barhaol ym maes coedwigaeth ac amaethgoedwigaeth. Ymgeisiwch nawr a chychwyn ar daith werth chweil tuag at ragoriaeth academaidd a phroffesiynol gyda Phrifysgol Bangor.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyflwyno cais yma.