Gwerthfawrogi gwyddoniaeth ac ysbrydolrwydd ar Ddiwrnod y Ddaear
Er mwyn nodi Diwrnod y Ddaear eleni, ar ddydd Llun, 22 Ebrill, aeth myfyrwyr modiwl Natur a Chrefydd y Gorllewin ar daith gerdded gyda darlithydd Ysgrifennu Creadigol Saesneg, Siân Melangell Dafydd er mwyn dysgu mwy am y gyfoeth o blanhigion sy’n tyfu o amgylch Prif Adeilad Celfyddydau’r Brifysgol.
![Poster Diwrnod y Ddaear](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-04/Diwrnod%20y%20Ddaear%20-%20poster.jpg?itok=p0m83uDm)
Mae’r modiwl, Natur a Chrefydd y Gorllewin, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio sut mae crefydd ac ecsbloetio’r byd naturiol wedi cael eu cysylltu’n hanesyddol, yn enweidg yn y byd gorllewinol, a’r gwahanol ffyrdd y mae cymdeithas, bellach, yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r cyfyng-gyngor amgylcheddol.
Mae ymchwil wyddonol ar waith ac ymgyrchoedd niferus yn digwydd yn gyfredol, ond ers ail hanner yr 20fed ganrif, mae mwy o bwyslais wedi’i roi ar ecoysbrydolrwydd fel cysyniad: hynny yw, astudio’r ddaear, bioleg a systemau’r byd naturiol, er mwyn eu deall, a chydnabod a gwerthfawrogi eu hanfod – sef eu bod oll yn fyw. A dyna lle y gwelir y briodas rhwng yr ecolegol a’r ysbrydol. Gan hynny, mae’r modiwl yn archwilio gwahanol agweddau ar ecoysbrydolrwydd diweddar, yn amrywio o Ecoleg Dwys, i Grefydd Gwyrdd Tywyll, i wahanol fathau o Baganiaeth, gan gynnwys Derwyddiaeth Fodern, Gwrachyddiaeth, Wica, a Shamaniaeth.
‘Bwriad y daith yma efo Siân,’ meddai Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, a chydlynydd modiwl Natur a Chrefydd y Gorllewin, ‘oedd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu am y fath gyfoeth o blanhigion sy’n tyfu dafliad carreg o’r Brif Adeilad. Mae yna blanhigion sy’n llesol i wahanol anhwylderau, ond hefyd ambell blanhigyn y dylid eu hosgoi. Mae uned ecoysbrydolrwydd y modiwl yn dangos pa mor bwysig ydi astudio natur ynghyd â chofio ei bod yn rhywbeth byw – ac felly – bod angen inni fel pobl, sy’n rhan o’r byd naturiol, fod yn cyson ymwybodol o’i hynodrwydd, a’n dibyniaeth arni.’
![Siân Melangell Dafydd yn Fforio](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-04/Diwrnod%20y%20Ddaear%20-%20Si%C3%A2n%20yn%20fforio.jpg?itok=M2cj-jDv)
Wrth ymateb i’r daith, dywedodd Megan Keen, sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, ‘Mi wnes i garu profi’r ardaloedd gwyrdd bach o amgylch y Brid Adeilad drwy lens newydd. Roedd Siân yn ymarfer cysyniadau rydan ni wedi bod yn eu trafod yn y dosbarth, ac roedd y daith yma’n help garw imi eu deal ymhellach, ynghyd â bod yn fwynhad i’w gweld.’
Eiliodd Elen Edwards, sydd hefyd yn ei hail flwyddyn, sylwadau Megan, drwy nodi, ‘Roedd y daith efo Siân yn un hynod ddiddorol, ac roedd dysgu am y gwahanol blanhigion yn rhoi elfen o werthfawrogiad arall imi tuag at y byd natur.’
![Criw Natur a Siân Melangell Dafydd](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-04/Diwrnod%20y%20Ddaear%20-%20y%20criw.jpg?itok=zveGcY7O)
Gan i’r daith ddigwydd ar Ddiwrnod y Ddaear, y gobaith oedd y byddai’n dangos bod yr hyn mae’r myfyrwyr yn ei astudio ac yn ei drafod yn fanwl yn yr ystafell ddarlithio’n gwbl berthnasol i’r byd tu allan, ac yn addysg ymarferol. A dyna a nodwyd gan Holly Needham, myfyrwraig Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sydd yn ei thrydeddd flwyddyn:
‘Dwi’n crefu fod y daith dywys gan Siân wedi helpu rhoi yr hyn rydyn yn ei ddysgu am ecoysbrydolrwydd, ymysg pethau eraill fel rhan o’r modiwl, mewn cyd-destun sicr. Roedd mynd tu allan mor bwysig i’n hatgoffa am sut mae’r rhannau bychain, unigol o natur, mor bwysig, a hynny’n dilyn misoedd o drafod ‘natur’ fel un endid – yn fwy o gysyniad. Roedd gallu canolbwyntio’n fanwl ar fanylion y planhigion gwahanol, sydd wedi bod mor agos atom ni ers cymaint o amser, wedi datblygu gwerthfawrogiad gwirioneddol o’r byd o’n cwmpas.’
Mae Siân Melangell Dafydd yn brofiadol iawn yn fforio ac yn wybodus iawn am y byd naturiol, ac roedd cael ei mewnbwn a’i bydolwg ar gymaint o agweddau’n amhrisiadwy. A’r cyfan wedi’i grisialu’n eithriadol bwysig yn y weithred o ‘ddiolch’ i bob deilen, blodyn, ffrwythyn neu lysieuyn a dynnir o wreiddiau’r ddaear.