04/24 Arolwg Wythnos Llesiant Croesewir ymatebion
Arolwg Wythnos Llesiant – Croesewir ymatebion
Gwahoddir yr holl staff i gwblhau yr arolwg hwn. Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd Ebrill.
Mae’r arolwg yn gwbl ddienw, a bydd yn cael ei ddefnyddio i lunio thema a gweithgareddau’r flwyddyn nesaf.
Dyma eich atgoffa y bydd y mentrau canlynol ar gyfer llesiant staff yn parhau dros y misoedd nesaf a gellir eu mynychu’n rhad ac am ddim:
- Sesiynau ymestyn i staff ar ddyddiau Mercher ('Sesiynau Symud i Staff' dyddiau Mercher 12.25-12.45)
- Rhaglen Staff Actif
- Dosbarthiadau Tai Chi dyddiol
- Sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar dros Teams ar ddyddiau Llun a dyddiau Mercher
- Clwb llyfrau llesiant staff
- Y Lolfa Menopos
- Grŵp Cyfoedion Syndrom Lludded Cronig (CFS)/Enseffalomyelitis Myalgig (ME)/Covid Hir
Hoffem ddiolch i’r holl staff sydd eisoes wedi cwblhau’r arolwg.