Sefydliad Confucius yn Arddangos Diwylliant Tsieina yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon!
Daeth Sefydliad Confucius â diwylliant Tsieina i stondin Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ar 11 Mai. Yng nghanol y bwrlwm, cafodd y mynychwyr wledd o ddiwylliant Tsieina, ynghyd â thywydd bendigedig a pherfformiadau Tai Chi difyr.
Yn ogystal â’r arddangosfeydd Tai Chi, cynhaliwyd gweithdai diddorol ar galigraffeg draddodiadol Tsieineaidd a gwneud breichledau. Roedd y profiadau hyn yn gyfle i ddysgu am gywreinrwydd ffurfiau celf Tsieineaidd, gan feithrin undod a gwerthfawrogiad diwylliannol.
Dywedodd Dan Xu, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, ei fod yn bleser bod yn rhan o'r ŵyl, gan bwysleisio cenhadaeth y sefydliad i rannu harddwch diwylliant Tsieina gyda'r gymuned leol. "Trwy ein gweithdai a’n harddangosiadau, ein nod yw tanio chwilfrydedd a meithrin cysylltiadau rhwng unigolion o gefndiroedd amrywiol," meddai Xu.
Ychwanegodd gyfranogiad Sefydliad Confucius elfen ddiwylliannol wahanol at yr ŵyl fwyd, gan adael atgofion melys am brofiad difyr i bawb a gymerodd ran.