Ar y cyd, fe gynhaliodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) a Chymdeithas Gofnodion De Cymru (SWRS) lansiad cyfrol ddiweddaraf y Gymdeithas, a olygwyd gan Dr Lowri Ann Rees (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas), The Middleman at Middleton Hall: The Letters of Thomas Herbert Cooke, Land Agent in Rebecca’s Carmarthenshire, 1841-1847.
Wedi cyflwyniad gan Gadeirydd SWRS, Dr David Jenkins, cafwyd sgwrs rhwng Lowri a Chyfarwyddwr ISWE, Dr Shaun Evans. Buont yn trafod arwyddocâd y casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd gan asiant tir Neuadd Middleton, Thomas Herbert Cooke, yn ystod ei gyfnod yn ne-orllewin Cymru.
Yn llawn manylder, mae’r llythyrau’n darparu cipolwg hynod ddiddorol o rôl yr asiant tir, rheolaeth ystad, a bywyd a gwaith yng nghefn gwlad Cymru’r 1840au, gan ddatgelu argraffion ac agweddau rhywun o’r tu allan. Yn arwyddocaol, roedd cyfnod Cooke yn ne-orllewin Cymru yn cyd-fynd âg anterth Terfysgoedd Beca, cyfres o brotestiadau yn erbyn talu tollau i ddefnyddio’r ffyrdd. Mae ei lythyrau’n cyfleu mewn manylder yr ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd o fewn y gymuned, a ceir ddisgrifiadau byw wrth i Cooke ddod ar draws Merched Beca. Oherwydd hyn, mae’r llythyron yn ffynhonnell hynod arwyddocaol yng nghyd-destun astudiaethau o brotestiadau gwledig yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.