Lansio Llyfr: The Middleman at Middleton Hall
Ymgasglodd cydweithwyr a ffrindiau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mangor ar 8 Mai i lansio llyfr diweddaraf Dr Lowri Ann Rees, The Middleman at Middleton Hall: The Letters of Thomas Herbert Cooke, 1841-1847, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Gofnodion De Cymru. Gan dynnu ar gasgliad hynod ddiddorol o lythyrau, mae’r gwaith hwn yn archwilio rôl asiant tir, themâu tadolaeth a phrotest, ac yn rhoi safbwyntiau newydd ar Derfysgoedd Beca.
Fel Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern, mae Dr. Lowri Ann Rees yn aelod allweddol o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar Gymru'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyda'i diddordeb arbennig mewn protestiadau gwledig, yr uchelwyr tiriog a'u hystadau gwledig, mae Dr. Rees wedi bod yn ganolog i ddatblygiad Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ers ei sefydlu. Lansiwyd ei chyfrol ddiweddaraf yn ffurfiol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth, ond daeth yr ail lansiad hwn â chydweithwyr Dr Rees, myfyrwyr a chefnogwyr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ynghyd ym Mangor. Ar ôl cyflwyniad cynnes gan Dr David Jenkins, Cadeirydd Cymdeithas Gofnodion De Cymru, cynhaliwyd y lansiad ar ffurf cyfweliad rhwng Dr Rees a Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Roedd hefyd yn gosod cynsail, mawr ei groeso, o weini cacen yn ystod digwyddiadau lansio llyfrau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru!
Wrth wraidd y gwaith hwn, mae trawsgrifiadau o dros naw deg o lythyrau, a ysgrifennwyd â llaw, a anfonwyd gan Thomas Herbert Cooke at ei fam, Charlotte Cook, rhwng 1841 a 1851. Yn frodor o Swydd Northampton, ymgymerodd Cook â swydd asiant tir ar Ystad Middleton yn Sir Gaerfyrddin ym 1841, gan weithio, i ddechrau, i Edward Hamlyn Adams, ac yna i’w fab, Edward Abadam. Prynwyd llythyrau Cooke gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1973, ac er nad oes cofnodion o'u lleoliad cyn y dyddiad hwn, mae Dr. Rees yn rhagdybio eu bod wedi'u cadw gan ddisgynyddion Cooke.
Daeth Dr Rees ar draws y casgliad am y tro cyntaf wrth ysgrifennu ei thraethawd hir MA ym Mhrifysgol Aberystwyth, a disgrifiodd yr her o ddehongli'r llythrennau croes gyda dwy set o ysgrifen wedi’u hysgrifennu dros ei gilydd ar ongl sgwâr. Nawr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Gofnodion De Cymru, sydd wedi cyhoeddi sawl argraffiad gwych o ddeunydd ffynhonnell gynradd sy’n ymwneud â de Cymru, mae Dr. Rees wedi cael y cyfle i gyhoeddi trawsgrifiadau llawn o'r llythyrau, yn eu cyfanrwydd, am y tro cyntaf. Roedd y gynulleidfa wedi mwynhau gweld rhai dyfyniadau doniol trwy gydol y sgwrs.
Mae'r llythyrau cynnar yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar argraffiadau cyntaf, hynod anffafriol, Cooke o gefn gwlad Cymru; roedd nifer o sylwadau dirmygus am y Cymry, diwylliant Cymru, ar iaith. Wrth ddisgrifio ymweliad ag eglwys blwyf Llanddarog – yr eglwys yr oed Dr Rees yn ei mynychu yn ystod ei phlentyndod – nododd Cooke ‘the service was performed in Welsh, which grated on my ears like the filing of a saw’. Er ei fod yn allanolwr, ni wnaeth Cooke unrhyw ymdrech i blwyfo, ac mae'n ymddangos ei fod wedi ystyried y Gymraeg yn anghyfleustra. Cytunodd Dr. Rees a Dr. Evans fod ei farn am y Gymraeg yn gyson â barn arolygwyr y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am y 'Llyfrau Gleision' yn yr un ddegawd.
Yn ei lythyrau preifat at ei fam, roedd Cooke yn rhydd i leisio ei farn wirioneddol ar ei gyflogwr, Abadam, safbwyntiau nad ydym fel arfer yn eu clywed, gan mai anaml y ceir llythyrau o’r fath mewn archifau ystadau. Yr argraff a gawn yw bod cymeriadau’r ddau’n gwrthdaro - roedd y ffaith fod Abadam yn dilyn oriau anarferol, yn dangos prin ddiddordeb yn rheolaeth feunyddiol yr ystâd, ac yn ymddiddori mewn projectau adeiladu ac addurno personol, yn hynod rwystredig i Cooke, a heb os, roedd y rhwystredigaeth hon yn cael eu hatgyfnerthu gan y ffaith fod Abadam yn hynod boblogaidd gyda'i denantiaid. Ymddengys fod Cooke yn ystyried Abadam yn niwsans i rediad trefnus yr ystad, er i Dr Rees bwysleisio mai un ochr yn unig i'r stori sydd gennym yma.
Roedd cyfnod Cooke fel asiant tir yn cyd-daro â Therfysgoedd Beca, y mudiad protest gwledig a gyrhaeddodd ei anterth yn haf 1843. Fel cynrychiolydd Ystad Middleton, daeth Cooke yn darged yn gyflym iawn, gyda gynnau'n cael eu tanio o dan ei ffenest a llythyr yn cael ei wthio o dan ddrws ffrynt Neuadd Middleton a oedd yn bygwth y 'Stiward tew'. Ond wrth i’r protestiadau gymryd tro mwy treisgar, dechreuodd Cooke fynegi ofn dwys yn ei lythyrau am ei ddiogelwch ei hun a diogelwch ei deulu, gan nodi ei fod yn cysgu gydag arfau wrth law a’i fod yn dysgu ei wraig a’i feibion sut i lwytho a thanio pistol. Mewn un llythyr, mae'n adrodd, mewn manylder iasol, am ddod wyneb yn wyneb â deugain o Ferched Beca dan orchudd mewn lôn gul. Yn ogystal â'i hanesion ei hun, mae llythyrau Cooke yn dal yr ofn ymhlith y tenantiaid a'r gymuned leol, yn ogystal ag ymateb ei gyflogwyr i'r ymosodiadau, sef bygwth absenoliaeth. Trafododd Dr Rees a Dr Evans bod tuedd i ramantu Terfysgoedd Beca, a bod y llythyrau hyn yn taflu goleuni newydd ar brofiadau brawychus y bobl a dargedwyd neu a ddaliwyd yn anfwriadol yn y trais, a thrwy hynny, yn cyflwyno darlun mwy cyflawn na’r hyn a gyflwynir fel arfer yn y naratif poblogaidd.
Ar ôl chwe blynedd o ddioddef Abadam a dioddefaint yn nwylo Merched Beca, aeth Cooke ati i geisio dod o hyd i swydd newydd, gan nodi mewn llythyr at ei fam y byddai ‘at once leave Wales and its botherations and troubles’. Erbyn 1847, roedd wedi sicrhau swydd ar Ystad Berkely yn Sir Gaerloyw, ond gwaethygodd ei iechyd yn fuan wedyn, a bu farw yn 1851. Mae Dr Rees yn awgrymu bod ei gyfnod ingol yn Neuadd Middleton wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei farwolaeth gynnar yn ei bumdegau.
Llongyfarchiadau gwresog i Dr Rees ar gyhoeddiad y gyfrol hon. Mae The Middleman at Middleton Hall: The Letters of Thomas Herbert Cooke, Land Agent in Rebecca’s Carmarthenshire, 1841-1847 ar gael i'w brynu ar wefan Cymdeithas Gofnodion De Cymru.
(Awdur: Bethan Scorey)