Sgandal y Swyddfa Bost a Sgandal y ’Steddfod
Mae dau ddarlithydd o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas wedi cyfrannu dwy erthygl am ddwy sgandal wahanol yn rhifyn yr haf 2024, Hanes Byw.
Un o’r straeon mwyaf pwysfawr sydd wedi bod yn y newyddion yn ystod y misoedd diwethaf, ac sydd wedi bod yn sail i gyfres deledu i ITV, ynghyd â llyfr, yw sut gafodd miloedd o weithwyr mewn swyddfeydd post eu cyhuddo a’u herlyn am ddwyn arian, er mai gwall cyfrifiadurol oedd tu ôl i’r cyfan. Yn ei herthygl, ‘Stampio mewn Sgandal’, mae darlithydd y Gyfraith, Ms Lois Nash, yn trafod hanes esblygiad y swyddfa bost a sut y dechreuodd golli ei henw da yn y 1990au. Sonnir hefyd am ddylanwad darlledu’r gyfres, Mr Bates vs The Post Office ar ITV eleni, a chyfeirir at lyfr hynod bwysig, Llythyr Noel: Dal y Post gan Noel Thomas, Siân Thomas ac Aled Gwyn Jôb, sy’n olrhain stori Noel Thomas a gafodd ei garcharu ar gam, ac a ddioddefodd oherwydd y camgymeriad technegol.
Sgandal union ganrif yn ôl sy’n mynd â sylw Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, yn ei erthygl, ‘Yr “Atgof” sy’n dal i ganu’. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, enillodd E. Prosser y Goron am bryddest hynod ddadleuol ar y testun, ‘Atgof’. Mae’r gwaith yn darlunio deffroad rhywiol dyn ifanc ond hefyd, ac yn feiddgar iawn, yn trafod profiad rhywiol rhwng dyn a dynes, a dau ddyn. Beirniadwyd y bryddest yn hallt gan amryw, gydag ambell un yn nodi bod ‘y gerdd yn gweddu yn well i Sodom a Gomorah nag i Gymru’. Felly edrych ar bwysigrwydd ‘Atgof’ yn natblygiad llenyddiaeth gwiyr Gymraeg y mae’r erthygl yma, gan hefyd gyd-destunoli’r ymatebion a lwyfan ehangach Ewrop ac America’r 1920au.
Mae rhifyn yr Haf 2024 (rhifyn 4) ar gael i’w brynu am £4.95.
Ac mae rhai copïau o’r rhifynnau eraill yn dal i fod ar gael, gydag un rhifyn yn cynnwys erthygl arbennig Dr Mari Wiliam am y coroni diweddar a choroni’r gorffennol mewn perthynas â chenedlaetholdeb.