
Roedd hwn yn gyfle i gael disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgaredd hwyliog a oedd yn eu cyflwyno i brosesau plismona a dulliau troseddegol o ddelio â throsedd. Ymatebodd y disgyblion yn dda iawn i’r gweithgareddau!
Ochr yn ochr â Mr Alun Oldfield a Dr Lorraine Barron roedd Ms Lisa Sparkes, a ddywedodd, ‘Roedd hwn yn gyfle gwych i drafod agweddau ar Droseddeg a Phlismona gyda disgyblion a’u cael i holi, dadansoddi a gwerthuso. Roedd yna sawl ditectif craff o’r dyfodol yn yr ysgol!’.