Thema Colocwiwm Rhwydwaith YGC 2024 a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor oedd ‘Cymru Gysylltiedig: Datblygu eich Gyrfa fel Ymchwilydd yng Nghymru a Thu Hwnt’. Trefnwyd y digwyddiad gan Golocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd hwn yn gyfle amhrisiadwy i rai o YGC Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas gyflwyno eu gwaith a chymryd rhan mewn trafodaethau buddiol.
Traddododd Ms Lois Nash, sy'n ddarlithydd yn y Gyfraith ac ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect PhD sy'n archwilio goblygiadau cyfreithiol a moesegol ewthanasia, ddarlith fflach 8 munud ar ei phwnc ac ysgogodd lawer o drafodaethau difyr. Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Lois, "Roedd yn brofiad da cael cyflwyno fy ymchwil i ymchwilwyr mewn amrywiol feysydd, ac mewn ffordd mor gryno."
Rhoddodd Alex Ioannou, ymchwilydd PhD gyda Sefydliad Astudio Ystadau Cymru (ISWE), sgwrs am ei brosiect doethuriaeth, gan amlygu sut mae ardal Eryri wedi esblygu’n sylweddol, o ran archeoleg, diwylliant, daearyddiaeth ac iaith.
Roedd cyflwyniad Alex yn olrhain y newid yn y canfyddiadau o Eryri dros y 300 mlynedd diwethaf hyd heddiw, lle ystyrir Eryri yn hanfodol ecolegol ac yn arwyddocaol yn ddiwylliannol. Fodd bynnag, mae ei thirweddau a bioamrywiaeth yn newid tra'n dod yn fwyfwy agored i newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Gwaethygir y ffaith hon gan ganfyddiadau a disgwyliadau hanesyddol gul o Eryri sy'n parhau â ffyrdd systemig cyfyngedig o feddwl. Yn ogystal, mae'r strwythurau yn gwneud penderfyniadau presennol yn dameidiog iawn, heb eu democrateiddio'n ddigonol ac yn brin o le i ddychymyg. Mae ei brosiect ymchwil doethurol rhyngddisgyblaethol yn archwilio’r wleidyddiaeth sydd wedi’i gwreiddio, y cysylltiadau pŵer, a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â Dyffryn Ogwen ac mae’n archwilio dychmygion newydd a fyddai’n cefnogi addasu a arweinir gan le. Mae ei brosiect yn ceisio llywio polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu cydweithrediadau seiliedig ar le a mabwysiadu dulliau amlddisgyblaethol o fewn dulliau ‘cynllunio lle’. Gyda hyn, tynnodd ar gyfweliadau lleol a deunydd archifol o Archifau Prifysgol Bangor.
Yn dilyn y colocwiwm, dywedodd Alex, "Roedd y digwyddiad gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Bangor yn wych. Roedd y set o sgyrsiau fflach roeddwn yn rhan ohonynt yn ddiddorol iawn ac yn dangos ffyrdd ystyrlon y gall Cymru gyflawni'r Nodau Llesiant trwy gymhwyso ymchwil a chydweithredu yn y byd go iawn."
Yn ogystal, cadeiriodd ein Hathro Martina Feilzer banel ar ysgrifennu grantiau, a oedd yn sesiwn addysgiadol a chraff. Roedd aelodau’r panel yn cynnwys:
- Yr Athro Shelagh Malham, Athro mewn Bioleg Forol, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gwyddorau Eigion, Deon Coleg Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Bangor.
- Yr Athro Simon Hands (FLSW), Athro Ffiseg Ddamcaniaethol a Chyfarwyddwr Datblygu Cymunedol, DiRAC Cyfrifiadura Perfformiad Uchel, Prifysgol Lerpwl. Aelod o Grŵp Cynghori YGC CDdC.
- Dominic Parkes, Awdur Cynnig Ymchwil-Datblygu a Golygydd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe
- Dr Christie Smith, Rheolwr Datblygu Ymchwil, Cefnogaeth Ymchwil ac Effaith Integredig (IRIS), Prifysgol Bangor.
- Dr Fiona Dakin, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
- Shreya Choudhury, Swyddog Ariannu Ymchwil, yr Academi Brydeinig.
Ysgogwyd y drafodaeth wych gan dri chwestiwn allweddol:
- Sut i nodi cyfleoedd ariannu priodol a chynllunio'ch cais?
- Sut i ysgrifennu cais cystadleuol a chymhellol?
- Sut mae ceisiadau'n cael eu hasesu a beth sy'n digwydd nesaf?
Ymatebodd y gynulleidfa’n dda a chan fyfyrio ar y drafodaeth, dywedodd yr Athro Feilzer, "Yn bendant, dysgais rywbeth gan y panel a gobeithio bod y fformat wedi gweithio i’r gynulleidfa hefyd. Gwnaeth CDdC waith gwych yn trefnu siaradwyr a fformatau’r diwrnod."
I ddarllen mwy am y sawl a gyfrannodd i'r colocwiwm, gweler y llyfryn atodol: booklet.