Modelau crefyddol ar y bwrdd gyda myfyrwyr yn edrych arnynt

Heddwch a Hunaniaeth

Cyhoeddodd y cyfnodolyn, Codi Pais, rifyn arbennig yn ddiweddar ar y thema 'Gweithredu', er mwyn hyrwyddo trafodaethau am heddwch a chodi arian at elusen Oasis Caerdydd sy'n cynorthwyo pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd cartrefol. Yn y rhifyn arbennig, ceir Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024, darnau o gelf a llenyddiaeth gan gyfranwyr amrywiol, ac ysgrif gan Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, sy'n trafod 'Heddwch a Hunaniaeth'. A hithau'n Fis Balchder, priodol oedd ystyried y gwrthdaro a'r gweithredu a sydd wedi digwydd yng nghyd-destun y gymuned LHDTC+, gan archwilio i ba raddau y mae syniadau Ich-Du Buber yn taflu goleuni ar y diffyg heddwch yma, ac yn ein cymdeithas yn gyffredinol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?