Yn ddiweddar, derbyniodd Sefydliad North West Cancer Research, sy'n rhan o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gymynrodd hael o £95,000 a ddefnyddiwyd i brynu offer o’r radd flaenaf i gefnogi ymchwil yr ysgol yn y maes bioleg celloedd canser a ffarmacoleg.
Gwnaeth Ms Mair Roberts, cyfaill i Brifysgol Bangor, gymynrodd yn ei hewyllys i gefnogi Sefydliad North West Cancer Research, a dymunodd i'w hetifeddiaeth gynorthwyo eu rhaglenni a'u projectau ymchwil.
Mae'r offer newydd wedi'i ddylunio i ddosbarthu celloedd a chyfansoddion yn gywir ac yn effeithlon, gan ganiatáu i ymchwilwyr astudio'r effaith y mae cyfuniadau amrywiol o gyffuriau mewn crynodiadau gwahanol yn ei chael ar gelloedd canser.
Y prif fuddsoddiad fu prynu peiriant dadansoddi gweithgaredd metabolaidd celloedd mewn amser real, sy'n astudio sut mae celloedd canser yn cynhyrchu egni o glwcos siwgr i gefnogi eu cyfraddau uchel o ran tyfu a rhannu. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i archwilio pa gyffuriau sy'n atal gallu'r celloedd i ddefnyddio glwcos i gynnal eu tyfiant a’u gallu i oroesi.
Bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr ôl-ddoethurol, myfyrwyr gradd Meistr a myfyrwyr PhD. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan israddedigion sy’n astudio ffarmacoleg, ac yn rhan o’r radd fferylliaeth y mae’r Brifysgol yn bwriadu ei lansio ym mis Medi 2025.
Mae gwaith yr adran yn cael ei arwain gan Dr Jonathan Blank, a ymunodd â’r Brifysgol yn ddiweddar ar ôl gweithio yn y sector fferyllol a biotechnoleg yn Unol Daleithiau America.
Dywedodd: “Bydd yr offer hwn yn cefnogi ymchwil cynnar sy’n hanfodol yn y gwaith parhaus i ddatblygu ffyrdd diogel ac effeithiol o drin canser, ac yn y pen draw, ei wella’n gyfan gwbl. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i effeithlonrwydd ein gwaith, gan ein caniatáu i gynnal arbrofion ar raddfa fwy, yn fwy cywir, ac mewn ffordd sy’n ein galluogi i atgynhyrchu’r gwaith ar fathau gwahanol o gelloedd canser.
Gan fod y darnau hyn o offer yn cael eu defnyddio yn y diwydiant fferyllol, bydd hefyd yn helpu ein myfyrwyr i drosglwyddo’n ddidrafferth o’r byd academaidd i ddiwydiant pe baent yn dewis dilyn y llwybr gyrfa hwnnw.”