Sketch of second science park building on Anglesey

Prifysgol Bangor ac M-SParc yn Datgelu Cynlluniau am Ail Adeilad

Prifysgol Bangor a Pharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn datgelu cynlluniau am ail adeilad ar safle M-SParc a gynlluniwyd i gadarnhau Gogledd Cymru fel pwerdy ar gyfer arloesi carbon isel.

Agwedd allweddol ar y project yw twf ymchwil carbon isel y Brifysgol, gan gynnwys y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI). Bydd y buddsoddiad yn creu ecosystem arloesi bwerus i bontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymwysiadau’r byd go iawn, a bydd yn denu’r doniau gorau a buddsoddiadau pellach trwy gynnwys neuadd arloesi fawr a labordy dadansoddi deunyddiau pwrpasol. 

Dywedodd Michael Flanagan, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Bangor ac arweinydd y project Egni, “Trwy fanteisio ar gryfder academaidd ac arbenigedd busnes, bydd yr adeilad newydd yn creu swyddi o ansawdd uchel, cyfleoedd uwchsgilio, ac yn meithrin ecosystem arloesol sy’n pontio ymchwil academaidd â chymwysiadau’r byd go iawn, ac yn sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth”.
 

Ychwanegodd Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-SParc, “Mae'n wych gallu rhannu dyluniadau cychwynnol  yr ail adeilad fel hyn. Bu tîm y project yn gweithio'n galed i ddylunio adeilad ymarferol sy'n cyd-daro â phrif adeilad eiconig M-SParc ond sy’n meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â chyfleoedd newydd i'r rhanbarth i sicrhau gyrfaoedd cyffrous sy'n talu cyflogau da i bobl Gogledd Cymru.”

Mae Egni yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru - Rhaglen Ynni Carbon Isel. Bydd y datblygiad yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd gwerth uchel, gan ddenu buddsoddiad i'r rhanbarth, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau sero-net. Mae £3.94m wedi'i ddyrannu gan Uchelgais Gogledd Cymru i gefnogi'r prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol ar ôl caffael.

Dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgais Gogledd Cymru: "Mae'n wych gweld cynnydd yn cael ei wneud drwy gyhoeddi'r cynlluniau a'r dyluniadau hyn. Mae prosiect Egni yn rhan allweddol o'n rhaglen Ynni Carbon Isel o fewn Cynllun Gogledd Cymru a byddwn yn annog pob cwmni sydd â diddordeb i gofrestru ar gyfer y digwyddiad contractwyr ar 19 Gorffennaf i ddysgu mwy am y cyfle tendro hwn sydd ar ddod."

Bydd y dyluniadau ar gael yn gyhoeddus er mwyn i bobl a busnesau lleol gael gweld yr adeilad ysblennydd am y tro cyntaf. Caiff prynhawn ymgynghori ei gynnal ddydd Iau 18 Gorffennaf – galwch heibio i M-SParc i gael gwybod mwy neu os na allwch chi ddod e-bostiwch egni@m-sparc.com i ddysgu mwy am y project. 

Hoffai Prifysgol Bangor a phartneriaid y project wahodd contractwyr sydd â diddordeb i ymweld â’r safle yn M-Sparc ddydd Gwener 19 Gorffennaf (10:00 -12:00) i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.

Os hoffech ddod i Ddigwyddiad y Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd i Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 18 Gorffennaf 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau sy’n debygol o ddod i’r digwyddiad y defnyddir yr wybodaeth hon.
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?