Arddangosfa: Gweision a Morwynion Cwrt Insole
Mae arddangosfa dros dro ar weision a morwynion Cwrt Insole i’w gweld yng nghyntedd y plasty ers y mis diwethaf, bydd yno o 27 Mai tan 2 Mehefin. Mae Bethan Scorey, Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu ac Ymgeisydd Doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sy'n ymchwilio i Gastell Sain Ffagan gerllaw, yn rhannu ei hymateb i'r arddangosfa.
Adeiladwyd Cwrt Insole, plasty Fictoraidd, a elwid yn ‘Ely Court’ yn wreiddiol, yn Llandaf ym 1856-57 i ddyn busnes o Loegr, James Harvey Insole (1821-1902), yn fuan ar ôl iddo gymryd drosodd busnes glo a llongau ffyniannus ei deulu yn ne Cymru. Wrth godi estyniad mawr yn y 1870au, ychwanegwyd tŵr neo-gothig, tebyg i’r tŵr a ychwanegwyd at Gastell Caerdydd ym 1869. Ymgymerwyd â phroject ehangu a moderneiddio mawr ym 1906 gan fab ac olynydd James Harvey Insole, sef George 'Fred' Frederick Insole (1847-1917), a newidiodd enw'r plas i 'The Court' hefyd. Yn y 1930au, prynodd Cyngor Caerdydd y plasty a’r ystâd pum deg saith erw o dan orchymyn prynu gorfodol i hwyluso creu system ffyrdd o amgylch y ddinas; ymadawodd y teulu Insole ym 1938. Aeth y plasty â’i ben iddo a chafwyd dau broject adfer ar droad yr ugeinfed ganrif, ac agorodd i’r cyhoedd am y tro cyntaf yn 2008. Trosglwyddwyd prydles y plasty i ymddiriedolaeth elusennol yn 2016, ac ers ei adfer a’i ailddatblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru yn 2014-17, mae wedi dod yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol. Mae arddangosfa barhaol ar hanes y teulu Insole o'r enw 'This House is a Stage' i’w gweld ar lawr cyntaf y plasty.
Fodd bynnag, daeth arddangosfa dros dro i cyntedd y plasty mis diwethaf, wedi’i creu gan Rebecca Vickery o Grŵp Ymchwil Archif Insole gyda thestun a ffotograffau o lyfryn o'r enw The Insole Servants: a two-part history. Yn 2008 casglodd y grŵp, sy'n gyfrifol am archif y plasty, atgofion, arteffactau ac albymau lluniau gan ddisgynyddion cyn-weithwyr yr ystad i lunio'r llyfryn hwn, sy'n cynnwys dwy ran. Mae’r rhan gyntaf, a ysgrifennwyd gan Gaynor Howard, yn disgrifio sut y symudodd James Harvey Insole a’i wraig Mary Ann o dŷ gweddol fach yn Crockherbtown yng nghanol Caerdydd i blasty mawr yn Llandaf, a’r fyddin o staff a oedd yn angenrheidiol i reoli tŷ a gerddi ar y raddfa hon. Mae’r llyfryn yn trafod cyfrifoldebau pob aelod staff yn y tŷ ac yn yr ardd yn fanwl, ac mae hefyd rhoi enwau, wynebau a hanesion personol i ddeiliaid pob swydd. Mae’r ail ran, a ysgrifennwyd gan Vanessa Cunningham, yn disgrifio’r dirywiad yn ffawd y teulu Insole o’r 1920au ymlaen trwy lygaid Margaret Evans, morwyn bersonol gwraig y tŷ.
Camsyniad cyffredin am weision a morwynion Fictoraidd yw y disgwylid iddynt oll fod yn anweledig, ond mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at y ffaith bod gan rai o’r gweision a’r morwynion yn y tŷ gysylltiad agos â theulu Insole, megis Eva Hudson, morwyn bersonol Jessy Insole (1853-1938) o 1908 tan 1911. Roedd rhaid i forwyn bersonol ymgymryd â dyletswyddau personol iawn i wraig y tŷ ac roedd yn aml yn teithio gyda hi; ar ben hynny, roedd y swydd yn gofyn am gyswllt corfforol wrth wisgo, rhoi colur a thrin gwallt, yn ogystal â thrin eiddo personol, er enghraifft wrth bacio. Roedd hon yn swydd mor bersonol fel bod y gofynion yn aml yn newid yn unol â diddordebau personol gwraig y tŷ. Mae’r atgofion yn nyddiadur Eva, fel stori ddoniol am roi llysenwau i bobl, yn datgelu pa mor agos oedd hi at Jessy, yn ogystal â’r ffaith bod Jessy wedi ymddiried ynddi i fynd gyda Violet, ei merch, ar ei theithiau. Ymhell o fod yn anweledig, yr oedd gan rai gweision a morwynion broffil cyhoeddus, megis y prif arddwr William Hurdon Julian, yr aelod staff a wasanaethodd hiraf yng Nghwrt Insole. Roedd William yn arddwriaethwr brwd ac roedd yn cynrychioli’r plas mewn ffeiriau gwledig amrywiol, gan ennill nifer o wobrau a dod ag amlygrwydd iddo ei hun a’i gyflogwyr. Yn unol â natur gyhoeddus y swydd, roedd tŷ'r prif arddwyr, South Lodge, yn bensaernïol amlwg, ac wedi ei leoli ger diwedd y rhodfa sydd oddi ar Ffordd Trelái.
Mae bywydau pob dydd y gweision a’r morwynion a ddisgrifir yn yr arddangosfa hon yn cyferbynnu â ffordd o fyw moethus y teulu Insole, sy'n gwneud lleoliad yr arddangosfa yn y cyntedd moethus yn fwy trawiadol. Roedd pwyslais arbennig ar ba mor gorfforol galed oedd gwaith morwyn tŷ oedd â’i dyletswyddau’n cynnwys cludo dŵr i fyny'r grisiau i lenwi bath, y dasg enfawr o olchi dillad gwely, cludo basgedi glo trwm i gynnau a chynnal nifer o danau. Roedd y morwynion tŷ yng Nghwrt Insole, y chwiorydd Martha a Harriet Howells o Sir Benfro a Mary Llewelyn o Borthceri, yn sicr yn cael profiad gwahanol o ystafelloedd y tŷ o gymharu â phrofiad y teulu Insole o’r ystafelloedd.
Roedd rhai aelodau staff yn gyson bresennol yn Insole Court trwy gydol mynd a dod aelodau'r teulu, ond hefyd trwy briodasau teuluol, genedigaethau a marwolaethau. Yn ystod deiliadaeth Charles Perry fel bwtler o 1881 i 1904, bu farw Mary Ann, gwraig gyntaf James Harvey Insole ym 1882, ailbriododd â Maria Carey ym 1890, a bu farw James Harvey Insole ei hun ym 1901. Pan ddaeth yr amser i Charles ymddeol, bu'n hyfforddi'r bwtler newydd yn bersonol ac arhosodd yn y cyffiniau wedyn, gan fynd i fyw i bentref Llandaf. Roedd gweision o'r fath yn rhan o'r dodrefn, enghraifft arall oedd Margaret Evans, a oedd yn adnabod y plas cystal erbyn yr amser y gadawodd y teulu ym 1937, mai hi oedd yr un a atgoffodd y teulu bod ganddynt lond sêff o emwaith yn yr 'ystafell ffwr'! Gyda llaw, roedd datblygiad Margaret o fod yn ferch ifanc nerfus yn ei harddegau i fod yn ddynes ifanc hyderus yn ystod ei blynyddoedd yno fel morwyn yn wahanol iawn i'r dirywiad yn ffawd y teulu Insole.
Braf iawn oedd gweld bywydau a phrofiadau’r gweision a’r morwynion fel rhan ganolog o’r plasty, a’u gweld yn cael y fath sylw. Mae’r arddangosfa hon i’w chroesawu’n fawr ac yn cyd-fynd â’r arddangosfa am y teulu Insole ar y llawr cyntaf, gan felly roi hanes mwy cyflawn o fywyd yng Nghwrt Insole.
Mae Cwrt Insole ar agor i ymwelwyr bob dydd rhwng 10am a 4pm ac mae’r llyfryn The Insole Servants: a two-part history ar gael i'w brynu yno. Bydd yr arddangosfa dros dro yn dychwelyd i Cwrt Insole ystod ei Penwythnos Treftadaeth ar 21ain a 22ain o Orffennaf 2024.
(awdur: Bethan Scorey)