Gardd Maint Cymru

O Chelsea i Fangor: gardd newydd yn agor yn Nhreborth

Mae gardd a enillodd wobr Aur yn Sioe Flodau Chelsea eleni bellach wedi’i throsglwyddo i Ardd Fotaneg Treborth, Prifysgol Bangor.

 

Cafodd yr ardd groeso mawr yn y sioe, gan ennill Aur a’r gorau yn y categori ‘Planhigion Gorau’, felly mae dod â’r ardd yn ôl i Dreborth yn arbennig iawn. Mae wedi bod yn broses gyffrous i weithio gyda’r dylunydd gerddi Dan Bristow a’r tîm ar ailadeiladu’r ardd ar dir Treborth, gan ail-greu hanfod yr ardd gyda rhai newidiadau a syniadau newydd i sicrhau ei bod yn ffynnu yn ei chartref newydd yma yng Nghymru.

 

Natalie Chivers,  Curadur, Gardd Fotaneg Treborth

Cydweithiodd Dan Bristow ag elusen newid hinsawdd Cymru Maint Cymru ar yr ardd fioamrywiol, hudolus i ddod â bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol i’r amlwg, wrth dynnu sylw at ganlyniadau dinistriol datgoedwigo - collwyd ardal o goedwig sy’n fwy na dwywaith maint Cymru yn 2022. Derbyniodd y prosiect arian gan Project Giving Back, yr elusen grantiau unigryw sy’n cefnogi gerddi at achosion da yn RHS Chelsea.

Mae’r ardd yn cynnwys tua 313 o rywogaethau o blanhigion, sy’n adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed y gellir darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol.

 

Mae Gardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy’n cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond mae’n cynnwys rhywogaethau o blanhigion sy’n ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain yma yn y Deyrnas Unedig. Y gobaith yw y bydd hyn yn herio ymwelwyr i gydnabod bod tirweddau ein cartref annwyl ninnau hefyd dan fygythiad.

 

Nicola Pulman,  Cyfarwyddwr Maint Cymru
Mae’r ardd yn trosglwyddo neges gadwraeth gref, gan godi ymwybyddiaeth am fater hollbwysig datgoedwigo a’i effaith ar fioamrywiaeth fyd-eang. Nid yn unig y mae’n addysgu ymwelwyr am ein heffaith ni ar newid hinsawdd, ond mae bod yn gartref i ardd Maint Cymru yn amlygu ymhellach werth Treborth fel gofod i bawb ddysgu am, a chael mynediad i, ardd fydd llawer ddim wedi ei gweld yn y sioe ei hun.
Dan Bristow ,  Studio Bristow

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?