Alex Ioannou, Newid Eryri (Pontio, Bangor, 8fed-18fed o Awst, 2024)
Mae Sefydliad Astudio Ystadau Cymru (ISWE) a Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts yn falch o gyhoeddi digwyddiad cyffrous a phryfoclyd yr haf hwn, gyda aelod o’n garfan ddoethurol, Alex Ionnaou, yn cynnal “arddangosfa ryngweithiol a chwilfrydig” sydd yn ei craidd yn archwilio, ymgysylltu ac yn herio’r syniad o newid ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r arddangosfa, o’r enw Newid Eryri, yn rhan ganolog o ymchwil doethuriaeth barhaus Alex, sy’n archwilio’r llu o’r problemau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol sy’n wynebu llywodraeth Cymru wrth reoli tirwedd newidiol gogledd Cymru, wrth ceisio am ei uchelgais thymor hir o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2035.
Gan ganolbwyntio ar astudiaeth achos o Ddyffryn Ogwen, Gwynedd, tir a fu unwaith yn eiddo ac yn cael ei reoli gan Stad hanesyddol Penrhyn, mae Alex wedi bod yn gweithio’n agos gyda’i phobl leol dros y blynyddoedd, gan llunio prosiect sy’n teimlo’n hynod bersonol, tra ar yr un pryd yn waith cyfunol. Trwy ddefnyddio tystiolaeth lafar, gweithdai rhyngweithiol, a llu o ffynonellau gwreiddiol eraill, mae wedi archwilio’r amrywiol ganfyddiadau ac agweddau gwrthdarol ynglŷn â’r trawsnewidiadau sylweddol y mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi dod ar eu traws trwy ei hanes hir – o’i orffennol pell, cynhanesyddol, i amseroedd mwy modern a chyfoes, a thu hwnt. Mae Newid Eryri felly yn ffurfio’r trydedd ran, a rhan olaf, o’r cydweithio graddol hwn ar Ddyffryn Ogwen, ac yng ngeiriau ei guradur, mae’n addo rhoi i’w gyfranogwyr “safbwynt adfywiol ar eu hamgylchedd, gan hefyd herio eu credoau am newid yn y dirwedd”.
Yn wir, mae’r arddangosfa hon nid yn unig yn dangos partneriaeth Alex gyda phoblogaeth leol Dyffryn Ogwen, ond hefyd y cydweithio dwys rhwng amryw o adrannau o fewn Prifysgol Bangor ei hun, a llawer o’i phartneriaid allanol, gan gynnwys Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ISWE, Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts, yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio, Pontio a chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r dull cydweithredol hwn yn dangos natur ryngddisgyblaethol gynhenid Gwaith Alex, gan gwmpasu meysydd fel hanes, daearyddiaeth, ymchwil tirwedd, y gwyddorau naturiol a chymdeithasol, astudiaethau diwylliannol, ieithyddiaeth, a pholisi’r llywodraeth. Ar ben hynny, wrth fynd i’r afael â chymaint o’r themâu hyn, gellir dadlau bod yr arddangosfa’n dangos yr heriau anferthol ac amlochrog sy’n wynebu Parc Cenedlaethol Eryri i wynebu’r newidiadau sylweddol sydd wedi’u gwneud arno dros y blynyddoedd, “o’r prosesau cudd sy’n gynhenid i lunio ein dealltwriaeth o ei thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol amlycach a wnaed gan Stad hanesyddol y Penrhyn”. Yn y ffurf hon y mae Alex am ddangos perthnasedd y stad enwog hwn, er lles neu er gwaeth, wrth lunio’r amgylchedd adeiledig, ac yn wir bywydau trigolion cymunedau fel Dyffryn Ogwen.
Ar ben hynny, fel y mae Alex hefyd yn awyddus i amlygu, ac fel y mae’r arddangosfa hon yn ei ddangos yn effeithiol, mae newid nid yn unig yn rhan o orffennol a phresennol Eryri, ond hefyd yn anochel yn rhan o’i dyfodol:
“Mae Llywodraeth Cymru yn galw hwn yn ‘ddegawd tyngedfennol’ i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rydym eisoes yn profi sychder dwys, llifogydd afonydd ac arfordirol ar draws y Parc Cenedlaethol, sydd oll yn effeithio ar ei gymunedau a’i ecosystemau. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau negyddol hyn, mae’n rhaid i ni ailfeddwl am ffyrdd y gallwn drawsnewid ein defnydd o dir i helpu i leihau’r effaith ar fywyd gwyllt ac ar ein bywoliaeth.”
Serch hynny, mae yn dal obaith, ac mae Alex yn awyddus i ddarparu epilog optimistaidd a gobeithiol i’w waith: “mae pobl, a chymdeithas, yn newid tirweddau. Gellir gweld hyn trwy weithredoedd a dylanwad stad y Penrhyn. Felly, mae’n rhaid cydnabod bod newid yn rhan o stori Eryri, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Yn unol â hynny, fe allwn ni, ac fe ddylen ni, gofleidio’r newid hwnnw, a gallwn ni ddewis ar ba ffurf y mae’r newidiadau hyn, ac i ba gyfeiriad y mae’n mynd â ni.” Y dull democrataidd a chydweithredol hwn, sydd wedi’i ymgorffori yn ei waith, yw’r hyn y mae Alex yn gobeithio y bydd yn achosi newid ystyrlon a dylanwadol ym mywydau nid yn unig cymunedau ac amgylcheddau naturiol Eryri, ond ar draws Ynysoedd Prydain a thu hwnt.
Mae Newid Eryri yn agor ar ddydd Iau yr 8fed o Awst, yn ystafell arddangos whiteBOX yn Pontio, Bangor a bydd ar gael i ymweld a hi tan yr 17eg o’r mis. Mae mynediad am ddim. Yn ogystal, ar ddiwrnod olaf yr arddangosfa, dydd Sul 18 Awst, bydd deunydd archif ychwanegol, sgyrsiau a cherddoriaeth yn cael eu gynnal rhwng 14:00 a 17:00. Gobeithiwn eich gweld yno ar yr hyn a ddylai fod yn archwiliad hynod ddiddorol a chyfareddol o'r hyn y mae newid wedi'i olygu, yr hyn y mae'n ei olygu, ac y bydd yn ei olygu i dirwedd gogledd Cymru.