Digwyddiad SIG 'Ailfeddwl Hyfforddiant Methodoleg Ymchwil i Fyfyrwyr ac Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa yn yr Oes Ddigidol'
Dr Fariba Darabi, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth, a Chyd-Gadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig Methodoleg Ymchwil (SIG) yn yr Academi Reolaeth Brydeinig, gyd-drefnu a rhoi cyflwyniad yn nigwyddiad SIG o'r enw 'Ailfeddwl Hyfforddiant Methodoleg Ymchwil i Fyfyrwyr ac Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa yn yr Oes Ddigidol'
Fe wnaeth Dr Fariba Darabi, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth, a Chyd-Gadeirydd y Grŵp Diddordeb Arbennig Methodoleg Ymchwil (SIG) yn yr Academi Reolaeth Brydeinig, gyd-drefnu a rhoi cyflwyniad yn nigwyddiad SIG o'r enw 'Ailfeddwl Hyfforddiant Methodoleg Ymchwil i Fyfyrwyr ac Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa yn yr Oes Ddigidol'. Digwyddiad ar y cyd oedd hwn rhwng Ysgol Busnes Bangor, Ysgol Busnes Prifysgol Leeds ac Ysgol Busnes Prifysgol Birmingham. Bu’n llwyddiant mawr gyda dros 100 o gyfranogwyr cofrestredig ar-lein o Ewrop, Gogledd America, Asia ac Affrica. Hwn oedd digwyddiad 2024 yng nghyfres seminarau blynyddol SIG 'Rhannu ein Brwydrau' sy'n cefnogi athrawon dulliau a methodolegau ymchwil mewn prifysgolion ledled y byd.
Bu’r cyfranogwyr yn archwilio tirwedd esblygol y methodolegau ymchwil mewn busnes a rheolaeth. Ysbrydolwyd y sgwrs gan sgyrsiau byrion ynghylch ymchwil ysgolheictod ymgysylltiedig gan Dr Fariba Darabi o Ysgol Busnes Bangor, dadansoddeg data gan yr Athro Danat Valizadeh o Ysgol Busnes Prifysgol Leeds, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (Gen-AI) gan yr Athro Mark Saunders o Ysgol Busnes Prifysgol Birmingham, a dad-drefedigaethu gan Dr Lena Jaspersen o Ysgol Busnes Prifysgol Leeds. Mae i’r ystyriaethau a gododd o'r digwyddiad oblygiadau mawr i'n hyfforddiant ymchwil ôl-radd hyfforddedig a doethurol.