Lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer y gymuned Fyddar
Mae dros 4000 o bobl yng Nghymru’n defnyddio tafodiaith Gymraeg Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith, ac fel grŵp lleiafrifol, yn ieithyddol a diwylliannol, mae defnyddwyr iaith arwyddion Cymraeg wedi cyfrannu ers amser maith at gyfoethogi ac ehangu iaith a hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.
Fodd bynnag, fel grŵp lleiafrifol, maent hefyd yn wynebu nifer o heriau o ran cynrychiolaeth, cydnabyddiaeth hawliau, a mynediad at adnoddau. Un maes yn arbennig yw eu hiechyd a’u llesiant yn gyffredinol. Yn anffodus, mae aelodau o'r gymuned o bobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn wynebu nifer o broblemau’n ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd ac anghyfartaledd o'u cymharu â siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Gall hyn gynnwys unrhyw beth o wasanaethau dehongli anghyson, cyfathrebu gwael a all yn aml arwain at gamddiagnosis neu ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth, neu fod mewn mwy o berygl o ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth o glefydau cronig. O ganlyniad, mae hyn yn tueddu i arwain at waeth iechyd a gwaeth canlyniadau iechyd na'r boblogaeth gyffredinol.
Dychmygwch fod gennych broblem iechyd a’ch bod chi’n gorfod wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd nad yw’r apwyntiadau gofal iechyd, yr wybodaeth ategol na’r gweithgareddau sy'n ymwneud â llesiant ar gael yn eich iaith chi.
Mae aelodau o’r gymuned Fyddar hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na’r boblogaeth gyffredinol.
Yn ogystal â hyn, mae pobl Fyddar hefyd yn wynebu rhwystrau pan fyddant yn dymuno mwynhau'r awyr agored, megis treulio amser yn ein parciau cenedlaethol anhygoel a cherdded Llwybr Arfordir Cymru, oherwydd nad oes deunyddiau ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain.
Rwyf wedi bod yn gweithio gydag aelodau o Gymunedau Byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru am dros bum mlynedd. Fel aelod o dîm rhyngddisgyblaethol, sy’n cael ei arwain a’i gyd-gyfarwyddo gan aelodau o’r gymuned Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, rydym wedi ymchwilio a nodi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y gymuned Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, ac sy’n effeithio ar eu mynediad at wasanaethau, adnoddau a gwybodaeth iechyd. Mae'r gwaith hwn bellach wedi arwain at broject tair blynedd gwerth £1m wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Mae’n un o blith nifer o raglenni grantiau sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sydd wedi gwreiddio ers tro byd yng nghymunedau tlotaf Prydain trwy archwilio sut y gall systemau iechyd gydweithio'n fwy effeithiol â chymunedau.
Cynlluniwyd y project hwn i fod yn gydweithredol, i gael ei arwain gan y gymuned ac, yn bwysicach na dim, i gael ei arwain gan bobl Fyddar; bydd yr holl bartneriaid yn cyd-lunio, yn cyd-ddylunio, ac yn rhoi atebion ar waith i anghydraddoldebau iechyd hysbys, a gwerthuso’r atebion hynny. Nod y project yw gwella gwasanaethau iechyd a gofal iechyd i bobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn datblygu geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu dehonglwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd arwyddion ac ymchwil sy’n ymwneud ag iaith arwyddion. Rydym hefyd yn datblygu amrywiaeth o adnoddau, megis apiau sy’n cynnig canllawiau fideo i roi mynediad gwell at safleoedd treftadaeth ac apiau sy’n cynnig canllawiau fideo i wella mynediad at ein Parciau Cenedlaethol.
Mae hwn yn faes ymchwil sydd wedi ei danariannu’n hanesyddol, felly rydym yn obeithiol y bydd hyn yn dechrau cael effaith ac yn gwneud newidiadau gwirioneddol i’r gymuned sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth i ni ddechrau ar y project, rydym yn awyddus i glywed gan aelodau o'r gymuned sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sy'n dymuno cymryd rhan. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan ymchwil.
Dr Christopher Shank
Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth
Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor