Mae’r erthygl yn archwilio’r peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) gyda’r rhai ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru ac fe’i cyhoeddir yn y cyfnodolyn uchel ei safon a adolygir gan gymheiriaid, Critical Social Policy.
Mae ‘Austerity alive and well in Wales and UBI in intensive care’ yn ffocws prin mewn cyfnodolyn academaidd rhyngwladol i faes polisi cymdeithasol a wnaed yn benodol yng Nghymru, sef y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol (UBI) cyntaf gyda’r rhai sy’n gadael gofal unrhyw le yn y byd. Mae’r erthygl yn trafod bwriadau Llywodraeth Cymru ynghylch y polisi yn dilyn diwedd y cyfnod peilot yn 2025 ac yn cynnig mewnwelediadau allweddol ar gyfer ei gymhwyso.
Meddai Dr Hefin Gwilym, ‘Mae wedi bod yn bleser ysgrifennu erthygl arall gyda fy nghyn-fyfyriwr PhD sydd bellach yn darlithio ar bolisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Stalford. Rwyf wedi dilyn ei yrfa gyda diddordeb mawr a’i arbenigedd mewn banciau bwyd ac UBI.’
Mae’r cydweithrediad hwn rhwng cyn-oruchwylydd PhD a doethur graddedig o Fangor yn dangos y perthnasoedd gwaith rhagorol a all ddatblygu yn ystod profiadau ein hymchwilwyr, fel y dywed Dr Dave Beck:
‘Ers cwblhau fy ymchwil PhD ar ansicrwydd bwyd yn 2018, mae Hefin a minnau wedi parhau â phartneriaeth ragorol o ymchwil ac ysgrifennu gyda’n gilydd. Daeth y bartneriaeth barhaus hon o ddatblygu diddordeb a rennir mewn deall y system nawdd cymdeithasol gyfredol. Mae ein gwaith ar nawdd cymdeithasol yn datblygu ymchwil UBI ar draws Cymru a Lloegr wedi arwain at sawl cyhoeddiad mewn cyfnodolion Polisi Cymdeithasol o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid a diddordeb cynyddol yn y pynciau hyn ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys myfyrwyr PhD.’
Mae'r erthygl yn un fynediad agored a gellir ei darllen yma.