Am ddiwrnod gwych yng Ngŵyl Haf Bangor!
Diolch o galon i bawb a ymunodd â ni ar 17 Awst am ddiwrnod llawn dathlu, diwylliant a chymuned. Roedd y ddinas yn fwrlwm o weithgareddau difyr a bwyd blasus. Roeddem yn falch dros ben o weld cymaint ohonoch yn mwynhau ein harlwy ac yn cael profiad ymarferol o gelfyddyd Tsieina, gan ychwanegu naws ddiwylliannol unigryw at y digwyddiad.
Roedd gŵyl eleni yn adlewyrchiad perffaith o ysbryd Bangor, gan ddod â phobl leol ac ymwelwyr at ei gilydd am ddiwrnod cofiadwy. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at ŵyl y flwyddyn nesaf!