Cynllun Taith Llywodraeth Cymru yn Ariannu Taith Ymchwil i Baris
Yn ddiweddar cwblhaodd Dr. Jonathan Ervine, Pennaeth Ieithoedd a Diwylliannau Modern, daith ymchwil i Baris a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd ei waith ymchwil ar chwaraeon a sinema yn Ffrainc yn llywio llyfr sydd ar ddod ar wrywdod mewn ffilmiau chwaraeon Ffrengig cyfoes. Mae gwaith Dr. Ervine yn herio safbwyntiau genre traddodiadol, gan amlygu’r portread o athletwyr gwrywaidd bregus ac estheteg arloesol.
Dychwelodd Dr. Jonathan Ervine, Pennaeth Ieithoedd a Diwylliannau Modern, i Fangor yn ddiweddar ar ôl taith ymchwil i Baris a ariannwyd gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru. Yn ystod y daith, bu’n gwneud ymchwil ar chwaraeon a sinema yn Ffrainc i baratoi at gyhoeddi llyfr ar y pwnc hwnnw sydd i'w gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Yn y llyfr, bydd Dr. Ervine yn canolbwyntio ar ddarluniau o wrywdod mewn ffilmiau chwaraeon Ffrengig cyfoes. Eglurodd sut y bydd y llyfr yn herio rhai syniadau a dderbyniwn am ffilmiau chwaraeon:
“Yn draddodiadol, mae pobl yn cysylltu ffilmiau chwaraeon â dynion macho ystrydebol braidd a naratifau ystrydebol sy'n dangos timau neu unigolion yn cyflawni llwyddiant er gwaethaf pob disgwyl. Fodd bynnag, mae’r ymchwil yn dangos bod ffilmiau chwaraeon cyfoes Ffrainc fwyfwy’n darlunio athletwyr gwrywaidd sy'n cofleidio bregusrwydd. Yn ogystal, mae ffilmiau chwaraeon Ffrengig yn eithaf arbrofol hefyd ac yn torri tir newydd yn esthetig.”
Roedd Dr. Ervine wrth ei fodd ym Mharis yn gwneud ymchwil ar chwaraeon a’r sinema pan oedd prifddinas Ffrainc yn paratoi i gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf eleni:
“Bydd yn hynod ddiddorol gweld beth fydd effaith y Gemau Olympaidd eleni ar le a phwysigrwydd chwaraeon yng nghymdeithas Ffrainc. Er mai prif ffocws fy nhaith ddiweddar oedd cynnal ymchwil archifol yn Llyfrgell Genedlaethol Ffrainc a'r Sefydliad Clyweledol Cenedlaethol, llwyddais i fynychu nifer o ddigwyddiadau diddorol a oedd yn rhan o'r Olympiad Diwylliannol. Ymhlith y rheini roedd arddangosfeydd mewn llefydd fel yr Amgueddfa Hanes Mewnfudo ac Amgueddfa'r Post ym Mharis, yn ogystal ag Amgueddfa Hanes Modern Montreuil. Roedd y rheini’n ddiddorol iawn o ran sut mae’r amgueddfeydd yn trafod chwaraeon Ffrainc mewn amrywiol gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r Gemau Olympaidd yn agosáu.”
Yn ogystal ag ymweld â nifer o archifdai ac amgueddfeydd, gwelodd Dr. Ervine sawl ffordd greadigol ac anarferol y bu diwylliant a chwaraeon yn rhyngweithio yn ystod yr Olympiad Diwylliannol. Roedd hynny’n cynnwys drama a oedd yn cyfuno reslo, barddoniaeth a llenyddiaeth, yn ogystal â digwyddiad arall a gyflwynwyd fel 'Sporting Rhapsody' a oedd yn cymysgu cerddoriaeth glasurol, bregddawnsio a BMX.