Diolch i ariannu hael gan Gronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, mae Undeb y Myfyrwyr wedi gallu cefnogi’r Clwb Cychod i uwchraddio ei fflyd fechan. Mae'r offer newydd wedi caniatáu i'r clwb ailafael yn ei raglen hyfforddi ar fyrder a bwrw ymlaen i gystadlu mewn digwyddiadau gan gynnwys cystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a Regatas Caer. At hynny, cafodd dau gwch oedd wedi'u difrodi eu trwsio'n llwyddiannus.
Mae Cronfa Adnewyddu’r Fflyd yng Nghlwb Cychod Prifysgol Bangor wedi bod o fudd mawr i dîm y merched, gan alluogi mwy o rwyfwyr i hyfforddi ar yr un pryd, a rhoi hwb i gapasiti hyfforddi’r clwb. Gyda mwy o gyfleoedd yn y dŵr, mae’r rhwyfwyr bellach yn derbyn mwy o hyfforddiant ac ymarfer wedi’i deilwra iddynt yn unigol, gan greu amgylchedd mwy cynhwysol sy'n cymell cyfranogiad a datblygu sgiliau. Bydd y cynnydd mewn cyfranogiad a hyfedredd yn cryfhau’r clwb dros amser ac yn meithrin carfan gref o rwyfwyr dawnus a fydd yn ysgogi mwy o lwyddiant cystadleuol. At ei gilydd mae'r project wedi gwella ansawdd yr hyfforddiant, diogelwch y fflyd a’i defnyddioldeb, ac wedi ehangu’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau.
Dywedodd Eleanor McQuair, Hyfforddwr Rhwyfo Bangor, “Trwy gomisiynu cwch sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer merched, mae Clwb Cychod Prifysgol Bangor wedi cymryd cam arloesol sy’n eu gosod uwchlaw’r rhan fwyaf o glybiau eraill. Yn draddodiadol, mae merched wedi gorfod hyfforddi mewn cychod gyda chyfarpar sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dynion, ac esgidiau mwy er enghraifft, a oedd yn eu rhwystro rhag perfformio ar eu gorau. Mae’r cwch merched newydd yn hyrwyddo amrywiaeth a chynnydd yn y clwb ac yn sicrhau bod gan ein holl rwyfwyr y cyfarpar gorau posib i gyrraedd eu llawn botensial.”
Ychwanegodd Persida Chung, y Swyddog Datblygu, “Rydym yn falch iawn o gefnogi projectau sy'n grymuso myfyrwyr i wireddu eu gallu a thyfu’n fwy hyderus. Diolch i haelioni ein cyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor wedi galluogi’r Brifysgol i ddarparu gwell offer a phrofiadau gwerthfawr i fyfyrwyr.”