10/24 Sesiynau sydd ar y gweill - Hyfforddiant i-act i Reolwyr
Gall staff nawr archebu lle ar gwrs i-act i Reolwyr. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar gwrs, gwiriwch eich tab ‘Learning’ i-Trent. Bydd sesiynau hyfforddi yn Gymraeg a Saesneg yn parhau trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r model i-act yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl cyffredin, megis gorbryder ac iselder, ac mae hefyd yn mynd i’r afael â sut y gallem wella lles er mwyn meithrin gwytnwch. Mae’r model i-act yn cynnig adnoddau ymarferol ac arweiniad ar sut y gallem wella ein hiechyd meddwl a'n lles ein hunain, a chefnogi eraill a allai fod â phroblem iechyd meddwl neu les. Mae'n rhoi i’r cyfranogwyr y wybodaeth y mae arnynt ei hangen, ac yn cynnig adnoddau ar gyfer mynd i'r afael â gwella iechyd meddwl a lles yn y gweithle.
Mae staff sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs o’r blaen wedi dweud y canlynol:
“Roedd yr hyfforddwyr yn hwyluso awyrgylch cefnogol, calonogol ac agored.”
“Roeddwn i’n hoff iawn o’r ffordd yr oeddem yn symud o gwmpas yr ystafell a gweithio gyda gwahanol bobl yn ystod y sesiwn.”
“Roedd y wybodaeth am ganllawiau a holiaduron/adnoddau hunanasesu’n ddefnyddiol.”