Athro Lynn Hodgkinson wedi’i hanrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain (BAFA) 2023
Mae’r Athro Lynn Hodgkinson wedi’i hanrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain (BAFA) 2023. Mae hyn i gydnabod cyfraniadau Lynn i faes cyfrifeg a chyllid academaidd y Deyrnas Unedig.
Cyflwynir y Wobr Cyflawniad Oes yn flynyddol i un neu fwy o unigolion a wnaeth gyfraniad sylweddol ac uniongyrchol i gyfrifeg a chyllid academaidd y Deyrnas Unedig yn eu gyrfaoedd. Cydnabod eu cyfraniadau trwy ymchwil, addysgu a/neu wasanaeth cyhoeddus.
Dywedodd Lynn, 'Gadewais yr ysgol yn 16, a phan oeddwn yn 23 penderfynais fentro i Goleg Polytechnig Plymouth. Chwe mlynedd yn ddiweddarach, symudais i Brifysgol Bangor, lle treuliais fy mywyd academaidd, heblaw am un flwyddyn. Ar ôl derbyn fy ngwobr, dywedais fy mod i’n fy ystyried fy hun yn lwcus iawn oherwydd ni allaswn i ddewis gyrfa well, ac mae’r diolch am hynny, i raddau helaeth, i’r bobl y cwrddais â nhw dros y blynyddoedd."
Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiannau’r Athro Hodgkinson, ac mae hefyd yn arwydd o'i hymrwymiad parhaus i ragoriaeth ac arloesedd ym meysydd cyfrifeg a chyllid.