CYNNAL SYMPOSIWN YM MANGOR AR 14 MAI
Y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon oedd yn cynnal Symposiwm Ffisioleg Integredig a Chymhwysol Cymru eleni gan ddod â thua 50 o staff ac ymchwilwyr ôl-radd at ei gilydd o brifysgolion Cymru, ynghyd â gwesteion o brifysgolion Bryste, Birmingham ac Innsbruck.
Roedd y symposiwm yn gymysgedd o gyflwyniadau gan academyddion profiadol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, yn rhannu canfyddiadau a dulliau eu hymchwil diweddaraf. Uchafbwynt y diwrnod oedd cystadleuaeth thesis 3 munud i fyfyrwyr a oedd wedi ei noddi gan y Gymdeithas Ffisiolegol. Roedd y fformat yn ddechrau egnïol perffaith i'r symposiwm.